Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 322 (v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/01/2026 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Am 14.31 cododd Carolyn Thomas bwynt o drefn mewn
perthynas â sylw a wnaed gan Gareth Davies yn ystod ei gwestiwn atodol i
gwestiwn 2 yn ystod Eitem 1 - Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Gofynnodd y Llywydd
i’r Aelodau fod yn ymwybodol o bwysigrwydd cywirdeb ffeithiol yn ystod y cyfnod
hyd at yr etholiad. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.32 |
|
(5 munud) |
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn gallu trafod eitemau 4 a 5 NNDM9099 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau
Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n
ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol
Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr
wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM9097 a NNDM9098 gael eu hystyried yn y
Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr 2026. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.03 NNDM9099 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd
Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y rhan honno o
Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad
wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y
Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM9097 a NNDM9098 gael
eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr 2026. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 4-5 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal
dadl ar eitemau 4-5 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth NNDM9097 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Bil
Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth), a gyflwynir yn y Senedd, yn
cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.95A, gosodwyd datganiad ynglŷn â’r Bil a gaiff ei
alw'n Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) gerbron y Senedd
ar 6 Ionawr 2026. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.04 NNDM9097 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil
llywodraeth a gaiff ei alw'n Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
(Aelodaeth), a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth. Yn unol â Rheol
Sefydlog 26.95A, gosodwyd datganiad ynglŷn â’r Bil a gaiff ei
alw'n Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) gerbron y Senedd
ar 6 Ionawr 2026. |
||
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) NNDM9098 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.98(ii): Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer y Bil Brys
llywodraeth a gaiff ei alw'n Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
(Aelodaeth) fel ag y mae yn ‘Amserlen ar gyfer ystyried Bil Tribiwnlys Adolygu
Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)' a osodwyd gerbron y Senedd ar 6 Ionawr 2026. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.26 NNDM9098 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii): Cytuno y bydd yr
amserlen ar gyfer y Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Bil Tribiwnlys
Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) fel ag y mae yn ‘Amserlen ar gyfer
ystyried Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)' a osodwyd gerbron
y Senedd ar 6 Ionawr 2026. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |
||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.26 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cynnydd a chyflawniad Economi Cymru yn y dyfodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.11 |
|
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 9-10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal
dadl ar eitemau 9-10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. Ni chafodd y cynnig o dan eitem 10 ei wneud gan y Cwnsler
Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. |
|
|
Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) NDM9094 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd
Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Gosodwyd Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar
3 Tachwedd 2025; gosodwyd adroddiad Pwyllgor y Bil
Atebolrwydd Aelodau ar Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
gerbron y Senedd ar 23 Rhagfyr 2025. Dogfennau ategol: Adroddiad
Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau Ymateb
y Llywodraeth i adroddiad Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.50 NDM9094 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Senedd
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Gosodwyd Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd
ar 3 Tachwedd 2025; gosodwyd adroddiad Pwyllgor y Bil Atebolrwydd
Aelodau ar Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) gerbron y
Senedd ar 23 Rhagfyr 2025. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
|
Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) NDM9095 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw
ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac
Etholiadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato
yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Dogfennau ategol: Ymateb
y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Ni chafodd y cynnig o dan eitem 10 ei wneud gan y Cwnsler
Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. |
||
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 11-12 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal
dadl ar eitemau 11-12 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. |
|
|
Egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) NDM9092 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil
Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Gosodwyd y Bil Datblygu
Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Senedd ar 3
Tachwedd 2025; gosodwyd adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr
(Cymru) gerbron y Senedd ar 19 Rhagfyr 2025. Dogfennau ategol: Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.11 NDM9092 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Senedd
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr
(Cymru). Gosodwyd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd
ar 3 Tachwedd 2025; gosodwyd adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr
(Cymru) gerbron y Senedd ar 19 Rhagfyr 2025. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
|
Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) NDM9093 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw
ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety
Ymwelwyr (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y
cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.11 NDM9093 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Senedd
Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Datblygu
Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd
mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o
ganlyniad i’r Bil. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
(60 munud) |
Egwyddorion cyffredinol Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) NNDM9109 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.102: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil
Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Gosodwyd Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 13
Ionawr 2026. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.15 NNDM9109 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.102: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil
Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Gosodwyd Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 13 Ionawr 2026. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(0 munud) |
Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) - Tynnwyd yn ôl Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi nodi
nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, pennodd y
Llywydd nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Tribiwnlys Adolygu
Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Felly, tynnwyd eitem 14 yn ôl. |
|
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |
PDF 256 KB