Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 307
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2025 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog
12.58, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn ateb
cwestiynau ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd
Cymru. Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni
a Chynllunio (ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru)
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gofynnwyd y 3 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.18 Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad
ar ddathlu gyrfa Jess
Fishlock, a diolch iddi. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb: P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo NDM9020 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais;
atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo’ a gasglodd 17,883 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.20 NDM9020 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais;
atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo’ a gasglodd 17,883 o lofnodion. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Codi tâl am arddangosfeydd NDM9021 Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Codi tâl am arddangosfeydd’ a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2025. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 NDM9021 Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Codi tâl am arddangosfeydd’ a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2025. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - deilliannau addysgol NDM9022 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu: a) bod canlyniadau diweddaraf y Rhaglen Asesu Myfyrwyr
Rhyngwladol (PISA) yn dangos bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'r lefel isaf
erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl genhedloedd y DU
am y pumed tro yn olynol; a b) bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau
cyllyll mewn ysgolion yng Nghymru ar eu lefelau uchaf erioed. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau
addysgol a chywirdeb academaidd drwy: a) gwella atebolrwydd drwy gyflwyno arolygiadau ysgolion
mwy trylwyr; b) datblygu cronfa ddata hygyrch, newydd o berfformiad
ysgolion Cymru i hyrwyddo dewis dysgwyr a rhieni; c) galluogi sefydlu ysgolion academi yng Nghymru i annog
arloesedd; d) adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion drwy fynd i'r
afael ag ymddygiad gwael, gan gynnwys gwahardd dysgwyr sy'n dod â chyllyll ac
arfau eraill i mewn i ysgol; e) gwella'r nifer o athrawon a gedwir, ac awdurdod
athrawon drwy ddileu heriau disgyblion; f) grymuso ysgolion i wahardd ffonau symudol mewn
ystafelloedd dosbarth yng Nghymru, ac annog plant i ddefnyddio deallusrwydd
artiffisial a thechnoleg yn ddiogel; g) trwytho cywirdeb yn ein system addysg drwy ei gwneud
yn ofynnol i addysgu ffoneg; a h) sicrhau cwricwlwm pwrpasol sy'n cefnogi'r gwaith o
ffurfio sgiliau hanfodol bywyd, gan gynnwys economeg y cartref yn orfodol a
phwysigrwydd cyfrifoldeb personol, bwyta'n iach, cyllidebu a byw'n
annibynnol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad blynyddol diweddaraf
Estyn, sy'n tynnu sylw at heriau parhaus mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau
digidol ar draws ysgolion Cymru, ochr yn ochr â materion recriwtio a chadw
athrawon difrifol yn y proffesiwn addysg. 2. Yn gresynu tuag at fethiannau dan Lywodraeth Llafur
Cymru, ble mae: a) safonau addysg wedi gostwng, gan gofnodi’r canlyniadau
PISA isaf erioed i Gymru mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2022; b) targedau recriwtio athrawon wedi eu methu ers bron i
ddegawd; a c) un o bob pedair ysgol gynradd heb fynediad at ofod
llyfrgell pwrpasol. 3. Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i wneud codi safonau
addysg yn genhadaeth genedlaethol mewn Llywodraeth, drwy sefydlu: a) cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol, gan gynnwys: i) meincnodau cenedlaethol ar gyfer sgiliau craidd; ii) ymyrraeth gynnar i ddisgyblion sy'n disgyn yn ôl; iii) datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar
dystiolaeth i athrawon; a iv) olrhain ac adrodd cynnydd tryloyw; b) gofod llyfrgell ym mhob ysgol gynradd; c) menter darllen ar draws y cwricwlwm i ymgorffori
llythrennedd ym mhob pwnc ar lefel uwchradd; a d) strategaeth recriwtio a chadw athrawon teg a
chystadleuol. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant 2 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod yr adroddiad asesiadau personol cenedlaethol
diweddaraf yn dangos gwelliant mewn darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg a bod
rhifedd yn gwella i'n dysgwyr ieuengaf; a b) bod presenoldeb yn yr ysgol wedi gwella yn 2024-25,
gan godi i 89.1 y cant o 88 y cant yn y flwyddyn flaenorol sy’n rhan o drywydd
cadarnhaol sy'n gwrthdroi'r dirywiad a welwyd yn ystod blynyddoedd y pandemig. 2. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i: a) sicrhau dull systematig o addysgu ffoneg yn y
Cwricwlwm i Gymru, a gefnogir drwy sefydlu set o raglenni dysgu proffesiynol ar
lythrennedd, ffoneg a rhifedd sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer pob ysgol yng
Nghymru, i'w cyflwyno gan Dysgu, ein sefydliad dysgu proffesiynol ac
arweinyddiaeth cenedlaethol newydd; b) darparu set gliriach o ddisgwyliadau a gwybodaeth am
ysgolion trwy gymryd rhan yn PIRLS (Progress in International Reading Literacy
Study) a TIMSS (Trends in International Mathematics and Science Study), a
datblygu disgwyliadau mwy manwl o ran llythrennedd a rhifedd ar gyfer ysgolion; c) bwrw ymlaen â chamau gweithredu ar y cyd yn dilyn yr
Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad mewn Ysgolion a Cholegau yng Nghymru,
gan gynnwys fforymau newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion a
gwahardd a chadw ar ôl ysgol, gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag
ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau llafur; d) ariannu ystod o raglenni i gefnogi ysgolion i
ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau, gan gynnwys
buddsoddi £9.5 miliwn mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a £2 filiwn mewn
gweithgareddau cyfoethogi i fynd i'r afael â dadrithiad; e) buddsoddi dros £13 miliwn bob blwyddyn yn ein dull
ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant emosiynol a meddyliol, gan gynnwys
cyllid i gefnogi llesiant staff ysgolion; f) ddatblygu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg
i ystyried yr ystod o faterion gwahanol sy’n wynebu’r gweithlu yng Nghymru, gan
gynnwys recriwtio a chadw, llesiant a materion yn ymwneud â chynorthwywyr
addysgu a chyflenwi ar gyfer absenoldeb; a g) adeiladu system gwella ysgolion cydlynol newydd sy'n
rhoi lle canolog i ysgolion, ac yn cyd-fynd â chylch arolygu mwy rheolaidd
Estyn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.41 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM9022 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu: a) bod canlyniadau diweddaraf y Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol
(PISA) yn dangos bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'r lefel isaf erioed mewn
mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl genhedloedd y DU am y pumed
tro yn olynol; a b) bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau cyllyll mewn
ysgolion yng Nghymru ar eu lefelau uchaf erioed. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau addysgol a chywirdeb
academaidd drwy: a) gwella atebolrwydd drwy gyflwyno arolygiadau ysgolion mwy
trylwyr; b) datblygu cronfa ddata hygyrch, newydd o berfformiad ysgolion Cymru i
hyrwyddo dewis dysgwyr a rhieni; c) galluogi sefydlu ysgolion academi yng Nghymru i annog
arloesedd; d) adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion drwy fynd i'r afael ag
ymddygiad gwael, gan gynnwys gwahardd dysgwyr sy'n dod â chyllyll ac arfau
eraill i mewn i ysgol; e) gwella'r nifer o athrawon a gedwir, ac awdurdod athrawon drwy ddileu
heriau disgyblion; f) grymuso ysgolion i wahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth
yng Nghymru, ac annog plant i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg
yn ddiogel; g) trwytho cywirdeb yn ein system addysg drwy ei gwneud yn ofynnol i
addysgu ffoneg; a h) sicrhau cwricwlwm pwrpasol sy'n cefnogi'r gwaith o ffurfio sgiliau
hanfodol bywyd, gan gynnwys economeg y cartref yn orfodol a phwysigrwydd
cyfrifoldeb personol, bwyta'n iach, cyllidebu a byw'n annibynnol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, sy'n tynnu
sylw at heriau parhaus mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol ar draws
ysgolion Cymru, ochr yn ochr â materion recriwtio a chadw athrawon difrifol yn
y proffesiwn addysg. 2. Yn gresynu tuag at fethiannau dan Lywodraeth Llafur Cymru, ble
mae: a) safonau addysg wedi gostwng, gan gofnodi’r canlyniadau PISA isaf
erioed i Gymru mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2022; b) targedau recriwtio athrawon wedi eu methu ers bron i ddegawd; a c) un o bob pedair ysgol gynradd heb fynediad at ofod llyfrgell
pwrpasol. 3. Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i wneud codi safonau addysg yn
genhadaeth genedlaethol mewn Llywodraeth, drwy sefydlu: a) cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol, gan gynnwys: i) meincnodau cenedlaethol ar gyfer sgiliau craidd; ii) ymyrraeth gynnar i ddisgyblion sy'n disgyn yn ôl; iii) datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athrawon;
a iv) olrhain ac adrodd cynnydd tryloyw; b) gofod llyfrgell ym mhob ysgol gynradd; c) menter darllen ar draws y cwricwlwm i ymgorffori llythrennedd ym mhob
pwnc ar lefel uwchradd; a d) strategaeth recriwtio a chadw athrawon teg a chystadleuol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod yr adroddiad asesiadau personol cenedlaethol diweddaraf yn dangos
gwelliant mewn darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg a bod rhifedd yn gwella i'n
dysgwyr ieuengaf; a b) bod presenoldeb yn yr ysgol wedi gwella yn 2024-25, gan godi i 89.1 y
cant o 88 y cant yn y flwyddyn flaenorol sy’n rhan o drywydd cadarnhaol sy'n
gwrthdroi'r dirywiad a welwyd yn ystod blynyddoedd y pandemig. 2. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i: a) sicrhau dull systematig o addysgu ffoneg yn y Cwricwlwm i Gymru, a
gefnogir drwy sefydlu set o raglenni dysgu proffesiynol ar lythrennedd, ffoneg
a rhifedd sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, i'w
cyflwyno gan Dysgu, ein sefydliad dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth
cenedlaethol newydd; b) darparu set gliriach o ddisgwyliadau a gwybodaeth am ysgolion trwy
gymryd rhan yn PIRLS (Progress in International Reading Literacy Study) a TIMSS
(Trends in International Mathematics and Science Study), a datblygu
disgwyliadau mwy manwl o ran llythrennedd a rhifedd ar gyfer ysgolion; c) bwrw ymlaen â chamau gweithredu ar y cyd yn dilyn yr Uwchgynhadledd
Genedlaethol ar Ymddygiad mewn Ysgolion a Cholegau yng Nghymru, gan gynnwys
fforymau newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion a gwahardd a chadw
ar ôl ysgol, gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag ysgolion,
awdurdodau lleol ac undebau llafur; d) ariannu ystod o raglenni i gefnogi ysgolion i ymgysylltu'n gadarnhaol
â'u dysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau, gan gynnwys buddsoddi £9.5 miliwn mewn
swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a £2 filiwn mewn gweithgareddau cyfoethogi i
fynd i'r afael â dadrithiad; e) buddsoddi dros £13 miliwn bob blwyddyn yn ein dull ysgol gyfan o
ymdrin ag iechyd a llesiant emosiynol a meddyliol, gan gynnwys cyllid i gefnogi
llesiant staff ysgolion; f) ddatblygu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg i ystyried yr
ystod o faterion gwahanol sy’n wynebu’r gweithlu yng Nghymru, gan gynnwys
recriwtio a chadw, llesiant a materion yn ymwneud â chynorthwywyr addysgu a
chyflenwi ar gyfer absenoldeb; a g) adeiladu system gwella ysgolion cydlynol newydd sy'n rhoi lle canolog
i ysgolion, ac yn cyd-fynd â chylch arolygu mwy rheolaidd Estyn. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM9023 Laura
Anne Jones (Dwyrain De Cymru) Diogelwch, tegwch a chydymffurfio â'r gyfraith: Dyfarniad
y Goruchaf Lys ar ystyr 'rhyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a'i bwysigrwydd i
Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 NDM9023 Laura Anne Jones (Dwyrain
De Cymru) Diogelwch, tegwch a chydymffurfio â'r gyfraith: Dyfarniad y Goruchaf Lys
ar ystyr 'rhyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a'i bwysigrwydd i Gymru. |
PDF 223 KB