Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 268 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-11. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2025-26

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.44

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

(30 munud)

6.

Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2024-2025

NDM8831 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2025.

 

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)  y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)  cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

 

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

NDM8831 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2025. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

24 

23 

47 

Derbyniwyd y cynnig. 

 

(60 munud)

7.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24

NDM8856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025.

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-25 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â phresenoldeb is, ymddygiad gwael disgyblion a heriau o ran recriwtio staff, sy'n cael effaith negyddol ar addysg yng Nghymru.

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg, darllen ac ysgrifennu yw'r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi:

a) ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig;

b) bod recriwtio athrawon i bynciau sydd â phrinder neu’n medru darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn parhau i beri pryder arbennig; ac

c) mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon da.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10 

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

 

NDM8856 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025. 

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant. 

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn gresynu bod Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-25 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â phresenoldeb is, ymddygiad gwael disgyblion a heriau o ran recriwtio staff, sy'n cael effaith negyddol ar addysg yng Nghymru. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

22 

25 

47 

Gwrthodwyd gwelliant 1. 

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn gresynu mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg, darllen ac ysgrifennu yw'r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

22 

25 

47 

Gwrthodwyd gwelliant 2. 

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn gresynu bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi: 

a) ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig; 

b) bod recriwtio athrawon i bynciau sydd â phrinder neu’n medru darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn parhau i beri pryder arbennig; ac 

c) mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon da. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

23 

24 

47 

 
Gwrthodwyd gwelliant 3. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025. 

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant. 

 

 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

47 

47 

 

Derbyniwyd y cynnig. 

 

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.14 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: