Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 255 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r ymgyrch ddyngarol mewn ymateb i'r cadoediad yn Gaza?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r ymgyrch ddyngarol mewn ymateb i'r cadoediad yn Gaza?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.37

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Teyrnged i’r hanesydd, Geraint Jenkins.

(60 munud)

5.

Dadl - 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru

NDM8756 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) agenda 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru;

b) bod 120 aelod o staff yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y newidiadau a gynigir gan 'Achos dros Newid'; ac

c) y bydd y gwasanaethau a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu lleihau.

2. Yn gresynu:

a) penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i gymeradwyo'r cynigion 'Achos dros Newid'; a

b) y penderfyniad i gau gweithrediadau arlwyo a manwerthu yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas.

3. Yn credu y bydd cau'r rhain yn cael effaith andwyol ar economi'r canolbarth.

4. Yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgysylltu'n rhagweithiol â chymunedau a sefydliadau i gyflymu’r broses er mwyn osgoi cau'r canolfannau dros dro.

Cyd-gyflwynwyr

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl îs-bwynt 1 (a) a rhoi yn ei le:

yr anawsterau economaidd a ddeilliodd o 14 o flynyddoedd o Lywodraeth Geidwadol i'r DU a’r pwysau a ddeilliodd o hyn ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru;

bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gynnig cymorth i aelodau staff y mae’r ‘Achos dros Newid’ yn effeithio’n uniongyrchol arnynt; ac

y bydd ad-drefnu Cyfoeth Naturiol Cymru yn galluogi’r corff i ganolbwyntio ar gyflawni ei swyddogaethau craidd a’i ddyletswyddau statudol.

Yn cydnabod:

a) mae’r 'Achos dros Newid' yn cynnwys cynlluniau a fydd yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn cynnal ei weithrediadau arlwyo a manwerthu yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas;

b) bydd safleoedd y canolfannau ymwelwyr yn parhau i fod ar agor at ddibenion cerdded, beicio, parcio ceir a thoiledau; ac

c) bydd hyn yn galluogi grwpiau cymdeithasol a chymunedol a busnesau lleol i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ymgysylltu â grwpiau cymunedol a busnesau lleol. gan felly hwyluso’r broses o chwilio am bartneriaid sydd mewn gwell sefyllfa i gynnig y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo hyn.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

24

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

22

46

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

b) yr anawsterau economaidd a ddeilliodd o 14 o flynyddoedd o Lywodraeth Geidwadol i'r DU a’r pwysau a ddeilliodd o hyn ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru;

c) bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gynnig cymorth i aelodau staff y mae’r ‘Achos dros Newid’ yn effeithio’n uniongyrchol arnynt; ac

d) y bydd ad-drefnu Cyfoeth Naturiol Cymru yn galluogi’r corff i ganolbwyntio ar gyflawni ei swyddogaethau craidd a’i ddyletswyddau statudol.

2. Yn cydnabod:

a) mae’r 'Achos dros Newid' yn cynnwys cynlluniau a fydd yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn cynnal ei weithrediadau arlwyo a manwerthu yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas;

b) bydd safleoedd y canolfannau ymwelwyr yn parhau i fod ar agor at ddibenion cerdded, beicio, parcio ceir a thoiledau; ac

c) bydd hyn yn galluogi grwpiau cymdeithasol a chymunedol a busnesau lleol i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

3. Yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ymgysylltu â grwpiau cymunedol a busnesau lleol. gan felly hwyluso’r broses o chwilio am bartneriaid sydd mewn gwell sefyllfa i gynnig y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo hyn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

22

46

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau canser

NDM8794 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad "Gwasanaethau Canser yng Nghymru" mis Ionawr 2025 gan Archwilio Cymru.

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi:

a) methu'n gyson â chyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 ddiwrnod ers mis Awst 2020;

b) achosi dryswch, gan danseilio ei Chynllun Gwella Gwasanaethau Canser ei hun drwy ddarparu eglurder annigonol i'r GIG a chyrff y trydydd sector; ac

c) darparu nac arweinyddiaeth genedlaethol gref na chlir i helpu i ysgogi gwelliannau angenrheidiol i ddiagnosis a thriniaeth canser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gosod amserlen glir i gyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 ddiwrnod;

b) egluro'n gyhoeddus statws pob un o'i chynlluniau gwella gwasanaethau canser a'u rhyngweithiadau â'i gilydd;

c) defnyddio capasiti traws-sector, trawsgymunedol a thrawsffiniol i leihau'r arosiadau hwyaf ar gyfer triniaeth canser; a

d) gweithredu 10 argymhelliad Archwilio Cymru o adroddiad "Gwasanaethau Canser yng Nghymru" mis Ionawr 2025.

Archwilio Cymru: Gwasanaethau Canser yng Nghymru

Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-2026

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod, fel y nodir yn adroddiad Archwilio Cymru, Gwasanaethau Canser yng Nghymru:

a) bod gwariant termau real ar wasanaethau canser wedi cynyddu i bron i £720 miliwn, sydd gryn dipyn yn uwch na'r twf termau real yng ngwariant GIG Cymru; a

b) bod cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser wedi gwella ar gyfer pobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2002-06 a 2016-22.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi sefydliadau GIG Cymru i wella perfformiad amseroedd aros mewn cysylltiad â chanser;

b) diweddaru'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser i egluro rolau, cyfrifoldebau a metrigau systemau; ac

c) cyflwyno Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Canser i wella’r ffordd y cydgysylltir ymdrech y GIG i wella gwasanaethau canser.

Y datganiad ansawdd ar gyfer canser | LLYW.CYMRU

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn ôl hynny:

Yn gresynu bod dadansoddiad gan y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn dangos bod Cymru yn safle 32 ar gyfer canser y stumog, 31 ar gyfer canser pancreatig a'r ysgyfaint, 21 ar gyfer canser yr iau a oesoffagal ac 12 ar gyfer canser yr ymennydd - o'i gymharu â 33 o wledydd tebyg.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ym mhwnt 3, dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le:

cryfhau strwythurau ar gyfer cydweithredu rhanbarthol er mwyn adnabod capasiti yn well a mynd i'r afael â'r loteri cod post yn ansawdd ac amseroldeb gofal;

Gwelliant 4 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar diwedd y cynnig:

Yn nodi bod argymhellion adroddiad Archwilio Cymru yn cyd-fynd â'r rhai a amlinellir yn adroddiad Plaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, ar ddiwygio strwythur llywodraethu'r GIG, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion ar ddiwygiadau llywodraethu a nodir yn adroddiad Plaid Cymru yn unol â hynny.

System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8794 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad "Gwasanaethau Canser yng Nghymru" mis Ionawr 2025 gan Archwilio Cymru.

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi:

a) methu'n gyson â chyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 ddiwrnod ers mis Awst 2020;

b) achosi dryswch, gan danseilio ei Chynllun Gwella Gwasanaethau Canser ei hun drwy ddarparu eglurder annigonol i'r GIG a chyrff y trydydd sector; ac

c) darparu nac arweinyddiaeth genedlaethol gref na chlir i helpu i ysgogi gwelliannau angenrheidiol i ddiagnosis a thriniaeth canser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gosod amserlen glir i gyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 ddiwrnod;

b) egluro'n gyhoeddus statws pob un o'i chynlluniau gwella gwasanaethau canser a'u rhyngweithiadau â'i gilydd;

c) defnyddio capasiti traws-sector, trawsgymunedol a thrawsffiniol i leihau'r arosiadau hwyaf ar gyfer triniaeth canser; a

d) gweithredu 10 argymhelliad Archwilio Cymru o adroddiad "Gwasanaethau Canser yng Nghymru" mis Ionawr 2025.

Archwilio Cymru: Gwasanaethau Canser yng Nghymru

Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-2026

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

34

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod, fel y nodir yn adroddiad Archwilio Cymru, Gwasanaethau Canser yng Nghymru:

a) bod gwariant termau real ar wasanaethau canser wedi cynyddu i bron i £720 miliwn, sydd gryn dipyn yn uwch na'r twf termau real yng ngwariant GIG Cymru; a

b) bod cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser wedi gwella ar gyfer pobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2002-06 a 2016-22.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi sefydliadau GIG Cymru i wella perfformiad amseroedd aros mewn cysylltiad â chanser;

b) diweddaru'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser i egluro rolau, cyfrifoldebau a metrigau systemau; ac

c) cyflwyno Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Canser i wella’r ffordd y cydgysylltir ymdrech y GIG i wella gwasanaethau canser.

Y datganiad ansawdd ar gyfer canser | LLYW.CYMRU

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

22

46

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 4 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar diwedd y cynnig:

Yn nodi bod argymhellion adroddiad Archwilio Cymru yn cyd-fynd â'r rhai a amlinellir yn adroddiad Plaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, ar ddiwygio strwythur llywodraethu'r GIG, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion ar ddiwygiadau llywodraethu a nodir yn adroddiad Plaid Cymru yn unol â hynny.

System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

12

24

46

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad "Gwasanaethau Canser yng Nghymru" mis Ionawr 2025 gan Archwilio Cymru.

2. Yn cydnabod, fel y nodir yn adroddiad Archwilio Cymru, Gwasanaethau Canser yng Nghymru:

a) bod gwariant termau real ar wasanaethau canser wedi cynyddu i bron i £720 miliwn, sydd gryn dipyn yn uwch na'r twf termau real yng ngwariant GIG Cymru; a

b) bod cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser wedi gwella ar gyfer pobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2002-06 a 2016-22.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi sefydliadau GIG Cymru i wella perfformiad amseroedd aros mewn cysylltiad â chanser;

b) diweddaru'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser i egluro rolau, cyfrifoldebau a metrigau systemau; ac

c) cyflwyno Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Canser i wella’r ffordd y cydgysylltir ymdrech y GIG i wella gwasanaethau canser.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

13

46

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Therapyddion lleferydd ac iaith

NDM8795 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith y mis hwn.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei chyflawni wrth ddarparu triniaeth, cymorth a gofal i bobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.

3. Yn gresynu bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru fesul pen o'r boblogaeth, nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

4. Yn deall, yn ôl y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, fod gan 71 y cant o blant a ddedfrydwyd anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu.

5. Yn cefnogi galwadau gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith i gynyddu nifer y therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru a gwella gwaith cynllunio'r gweithlu ar gyfer y proffesiwn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu model cyllido clir, cynaliadwy ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid ar draws Cymru; a

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i fandadu presenoldeb therapydd lleferydd ac iaith ym mhob tîm cyfiawnder ieuenctid fel gofyniad statudol.

Adroddiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid - 'Assessing the needs of sentenced children in the Youth Justice System 2019/20' (Saesneg yn unig)

Adroddiad Cyflwr y Genedl Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith - 'Y Gweithlu Therapi Lleferydd ac Iaith yng Nghymru'

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu a chomisiynu cyrsiau addysgu therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen ddwyieithog newydd yn Wrecsam; a

b) bod nifer y lleoedd ar gyrsiau addysgu therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi cynyddu ers 2023.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella mynediad at therapi lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8795 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith y mis hwn.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei chyflawni wrth ddarparu triniaeth, cymorth a gofal i bobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.

3. Yn gresynu bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru fesul pen o'r boblogaeth, nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

4. Yn deall, yn ôl y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, fod gan 71 y cant o blant a ddedfrydwyd anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu.

5. Yn cefnogi galwadau gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith i gynyddu nifer y therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru a gwella gwaith cynllunio'r gweithlu ar gyfer y proffesiwn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu model cyllido clir, cynaliadwy ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid ar draws Cymru; a

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i fandadu presenoldeb therapydd lleferydd ac iaith ym mhob tîm cyfiawnder ieuenctid fel gofyniad statudol.

Adroddiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid - 'Assessing the needs of sentenced children in the Youth Justice System 2019/20' (Saesneg yn unig)

Adroddiad Cyflwr y Genedl Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith - 'Y Gweithlu Therapi Lleferydd ac Iaith yng Nghymru'

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

24

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu a chomisiynu cyrsiau addysgu therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen ddwyieithog newydd yn Wrecsam; a

b) bod nifer y lleoedd ar gyrsiau addysgu therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi cynyddu ers 2023.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella mynediad at therapi lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

22

46

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith y mis hwn.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei chyflawni wrth ddarparu triniaeth, cymorth a gofal i bobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.

3. Yn nodi:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu a chomisiynu cyrsiau addysgu therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen ddwyieithog newydd yn Wrecsam; a

b) bod nifer y lleoedd ar gyrsiau addysgu therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi cynyddu ers 2023.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella mynediad at therapi lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

10

12

46

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.07

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8787 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cyrraedd pen y domen? Epidemig taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.12