Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 199 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(15 munud)

Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.

Cafodd Vaughan Gething ei enwebu gan Mark Drakeford.

Cafodd Andrew RT Davies ei enwebu gan Samuel Kurtz.

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei enwebu gan Delyth Jewell.

Gan fod tri enwebiad, cynhaliwyd pleidlais drwy alw cofrestr yr Aelodau. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd bob Aelod a oedd yn bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Cafodd yr Aelodau eu galw yn nhrefn yr wyddor. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniatawyd i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio.

Canlyniad y bleidlais oedd:

Vaughan Gething

Andrew RT Davies

Rhun ap Iorwerth

Ymatal

Cyfanswm

27

13

11

0

51

Gan fod Vaughan Gething wedi cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a gafodd eu bwrw ar gyfer pob ymgeisydd arall, cyhoeddodd y Dirprwy Lywydd ei fod wedi ei enwebu i’w benodi’n Brif Weinidog Cymru, ac y bydd, yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, argymhelliad yn cael ei wneud i’w Fawrhydi y Brenin i benodi Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru.

Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd Vaughan Gething i gyfarch y Senedd.

(20 munud)

1.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Kaylea Titford?

I ofyn i Weinidog yr Economi

David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata yn dilyn y cyhoeddiad i gau'r ffyrnau golosg ym Mhort Talbot?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.47

Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Kaylea Titford?

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata yn dilyn y cyhoeddiad i gau'r ffyrnau golosg ym Mhort Talbot?

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

3.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - 100 mlynedd o Sefydliad y Merched, Marshfield.

Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad am - Mis Ymwybyddiaeth Parlys yr Ymennydd (Mawrth).

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Cydnabyddiaeth swyddogol i Gofeb Genedlaethol Glowyr Cymru, Senghenydd (12 Mawrth).

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Casgliadau cenedlaethol

NDM8505 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod: 

a) casgliadau cenedlaethol Cymru, sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn berchen i bawb yng Nghymru;

b) angen diogelu'r casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; ac

c) mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod.

2. Yn nodi:

a) rhybuddion gan y sefydliadau bod toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau cenedlaethol, oherwydd gofodau a storfeydd anaddas a hefyd lleihad yn nifer y staff arbenigol sydd bellach wedi eu cyflogi i ofalu amdanynt;

b) y pryderon y bydd toriadau pellach yn gwaethygu’r sefyllfa; ac

c) cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer ein casgliadau cenedlaethol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu panel o arbenigwyr i sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r sefydliadau a Llywodraeth Cymru i roi ar waith gynllun i’w diogelu;

b) gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, a’r undebau sy’n cynrychioli’r staff yn y sefydliadau hyn, i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; ac

c) gweithio gydag Amgueddfa Cymru i barhau gyda’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol.

Cyd-gyflwynwyr

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.12

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

7

16

50

Derbyniwyd y cynnig.

(30 munud)

6.

Dadl ar ddeiseb P-06-1367 - Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Draeth y Gogledd, Llandudno

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.57

NDM8525 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1367: Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Draeth y Gogledd, Llandudno’ a gasglodd 12,228 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Fformiwla Barnett

NDM8524 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn y Senedd ynghylch yr angen i ddiwygio model cyllido Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â'r fformiwla Barnett annheg i ben ac i ariannu Cymru yn ôl angen a nid ar sail poblogaeth.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r model cyllido presennol sy'n gweld Cymru'n cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar iechyd ac addysg yn Lloegr, gyda dim ond £1.05 yn cyrraedd GIG Cymru ac ystafelloedd dosbarth.

Yn nodi'r bron i £1 biliwn mewn buddsoddiad ychwanegol yng Nghymru gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chyllid ffyniant bro.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno, yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol ac sydd wedi’i chymeradwyo gan y pedair gwlad, o fewn cytundeb cyllidol newydd a gaiff ei oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8524 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn y Senedd ynghylch yr angen i ddiwygio model cyllido Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â'r fformiwla Barnett annheg i ben ac i ariannu Cymru yn ôl angen a nid ar sail poblogaeth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r model cyllido presennol sy'n gweld Cymru'n cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar iechyd ac addysg yn Lloegr, gyda dim ond £1.05 yn cyrraedd GIG Cymru ac ystafelloedd dosbarth.

Yn nodi'r bron i £1 biliwn mewn buddsoddiad ychwanegol yng Nghymru gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chyllid ffyniant bro.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

37

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno, yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol ac sydd wedi’i chymeradwyo gan y pedair gwlad, o fewn cytundeb cyllidol newydd a gaiff ei oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

11

13

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8524 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn y Senedd ynghylch yr angen i ddiwygio model cyllido Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno, yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol ac sydd wedi’i chymeradwyo gan y pedair gwlad, o fewn cytundeb cyllidol newydd a gaiff ei oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

13

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.19

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8517 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynllun cenedlaethol ar gyfer cydnerthedd rhag llifogydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.24

NDM8517 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynllun cenedlaethol ar gyfer cydnerthedd rhag llifogydd

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM8523 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Achub bywydau a diogelu ein cymunedau - yr achos dros ganolfannau atal gorddos

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.45

NDM8523 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Achub bywydau a diogelu ein cymunedau - yr achos dros ganolfannau atal gorddos