Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 193
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-3, 5-6 ac 8-12. Tynnwyd cwestiynau 4 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
ddarpariaeth addysg bellach yng Nghampws Rhydaman Coleg Sir Gâr yn y dyfodol? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.00 Atebwyd gan Weinidog y
Gymraeg ac Addysg Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg bellach yng Nghampws
Rhydaman Coleg Sir Gâr yn y dyfodol? |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.08 Gwnaeth
Samuel Kurtz ddatganiad am - Scouts Cymru – Cystadleuaeth Bathodyn Dydd Gŵyl Dewi. Gwnaeth
John Griffiths ddatganiad am - Dan Simms yn cerdded o Gil-y-coed i
Amsterdam i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion yn dilyn marwolaeth dau
ffrind trwy hunanladdiad (24 Chwefror – Mawrth). Gwnaeth
Laura Anne Jones ddatganiad am - Ivor o Sir Fynwy sydd â Syndrom
Angelman, a gerddodd o amgylch ei bentref bob dydd am fis i godi ymwybyddiaeth
ac arian. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23 NDM8495 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol ‘Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2023. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.13 NDM8495 Delyth Jewell (Dwyrain
De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol
2022-23’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2023. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy NDM8496 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu y bydd
cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn arwain at
amcangyfrif o: a) 122,200 o ostyngiad
yn nifer y da byw yng Nghymru; b) 5,500 o swyddi yn
cael eu colli ar ffermydd Cymru; ac c) colled o £199 miliwn
i'r economi wledig. 2. Yn cydnabod cryfder y
teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy. 3. Yn nodi'r arolwg a
gomisiynwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru sydd
wedi canfod mai dim ond 3 y cant o ffermwyr yng Nghymru sy'n ymddiried yn
Llywodraeth Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) dileu'r gofyniad i
bob fferm gael 10 y cant o orchudd coed; a b) dileu cynigion
presennol y cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â'r sector ffermio i
ddatblygu cynllun newydd y mae'r gymuned ffermio yn ei gefnogi. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod cyfraniad
allweddol ffermio ac amaethyddiaeth at dirlun cymdeithasol, economaidd a
diwylliannol Cymru. 2. Yn croesawu
penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal lefelau cynllun y taliad sylfaenol yn
2024 er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo i’r cynllun ffermio cynaliadwy. 3. Yn croesawu’r
ymgysylltu gyda ffermwyr a rhanddeiliaid sydd wedi arwain at newidiadau
cadarnhaol i’r gwaith o lunio’r cynllun ffermio cynaliadwy ers cyhoeddi’r
cynllun amlinellol yn 2022. 4. Yn cefnogi diwygiadau
pellach i’r cynllun ffermio cynaliadwy mewn ymateb i adborth oddi wrth ffermwyr
yn ystod yr ymgynghoriad diweddar. 5. Yn nodi mai’r
bygythiad mwyaf i sector ffermio cynaliadwy a diogelwch bwyd yng Nghymru yw
effaith y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. 6. Yn cymeradwyo bwriad
y cynllun ffermio cynaliadwy i wobrwyo ffermwyr Cymru sy’n cymryd camau i
ymateb i’r her honno. 7.
Yn gresynu at bolisi Llywodraeth y DU o waredu sicrwydd o ran cyllid i ffermydd
a lleihau cyllidebau, gan wneud y broses bontio yn fwy heriol ymhob un o
wledydd y DU, gan greu ansicrwydd i ffermwyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.00 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8496 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu y bydd cynllun
ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn arwain at amcangyfrif o: a) 122,200 o ostyngiad yn nifer
y da byw yng Nghymru; b) 5,500 o swyddi yn cael eu
colli ar ffermydd Cymru; ac c) colled o £199 miliwn i'r
economi wledig. 2. Yn cydnabod cryfder y
teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy. 3. Yn nodi'r arolwg a
gomisiynwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru sydd
wedi canfod mai dim ond 3 y cant o ffermwyr yng Nghymru sy'n ymddiried yn
Llywodraeth Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) dileu'r gofyniad i bob fferm
gael 10 y cant o orchudd coed; a b) dileu cynigion presennol y
cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â'r sector ffermio i ddatblygu
cynllun newydd y mae'r gymuned ffermio yn ei gefnogi.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol ffermio ac
amaethyddiaeth at dirlun cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. 2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal
lefelau cynllun y taliad sylfaenol yn 2024 er mwyn hwyluso’r broses o
drosglwyddo i’r cynllun ffermio cynaliadwy. 3. Yn croesawu’r ymgysylltu gyda ffermwyr a rhanddeiliaid
sydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol i’r gwaith o lunio’r cynllun ffermio
cynaliadwy ers cyhoeddi’r cynllun amlinellol yn 2022. 4. Yn cefnogi diwygiadau pellach i’r cynllun ffermio
cynaliadwy mewn ymateb i adborth oddi wrth ffermwyr yn ystod yr ymgynghoriad
diweddar. 5. Yn nodi mai’r bygythiad mwyaf i sector ffermio
cynaliadwy a diogelwch bwyd yng Nghymru yw effaith y newid yn yr hinsawdd a
cholli bioamrywiaeth. 6. Yn cymeradwyo bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy i
wobrwyo ffermwyr Cymru sy’n cymryd camau i ymateb i’r her honno. 7. Yn gresynu at bolisi Llywodraeth y DU o waredu
sicrwydd o ran cyllid i ffermydd a lleihau cyllidebau, gan wneud y broses
bontio yn fwy heriol ymhob un o wledydd y DU, gan greu ansicrwydd i ffermwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - TB Buchol NDM8494 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Yn cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi arolwg NFU Cymru
ar TB mewn gwartheg yng Nghymru sy'n datgan: a) bod 70 y cant o
ffermwyr yn disgrifio dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB fel un gwael iawn; b) bod 85 y cant o
ffermwyr yn dweud bod TB yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl, a bod 63
y cant o'r ffermwyr a holwyd yn beio bywyd gwyllt am drosglwyddo TB; ac c) y gost ariannol
gyfartalog amcangyfrifedig y flwyddyn i ffermydd a ddarparodd fanylion cost yw
£25,677, gyda data ar draws yr holl ymatebwyr yn dangos dros 30 y cant yn
amcangyfrif bod eu costau dros £10,000 a 13 y cant dros £50,000. 2. Yn gresynu at: a) y baich ariannol ac
iechyd meddwl aruthrol ar ffermwyr yng Nghymru a berir gan TB gwartheg; a b) y diystyriaeth
barhaus o farn arbenigol a thystiolaeth wyddonol gan Lywodraeth Cymru, ar draul
gwartheg Cymru a lles ariannol a meddyliol ffermwyr Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cynnal gwerthusiad ac
arfarniad hirdymor o reolaethau gwartheg cyfredol ar frys i bennu eu
heffeithiolrwydd cymharol wrth atal a rheoli trosglwyddo clefydau; b) gwneud newidiadau ar
unwaith i'r polisi lladd ar y fferm; c) sefydlu polisïau sy'n
adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy'n caniatáu dulliau difa a
rheoli priodol a gwyddonol dilys; a d) trafod gydag NFU
Cymru, UAC a chynrychiolwyr eraill o'r sector amaeth yng Nghymru i sefydlu
ffordd newydd ymlaen wrth bennu polisi TB gwartheg Cymru. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi’r
ymgysylltu sy’n parhau gyda’r undebau amaeth er mwyn datblygu dull o ddileu TB
sy’n gadarn a hefyd yn addas i’w diben. 2. Yn croesawu: a) y gefnogaeth
sydd ar gael i ffermwyr sy’n dioddef effaith ddifrifol TB ar eu fferm, gan
gynnwys cefnogaeth gan Cymorth TB a hefyd y cymorth gan Tir Dewi; Rhwydwaith y
Gymuned Ffermio; FarmWell Cymru; Sefydliad DPJ; a b) dull y Llywodraeth o
lunio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chynnwys arbenigedd o’r radd
flaenaf wrth ddatblygu polisi ar TB gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, y Ganolfan
Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol yng Nghymru ym Mhrifysgol Aberystwyth
ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion y DU. 3. Yn cefnogi: a) camau i werthuso’n
barhaus bolisi Llywodraeth Cymru ar TB, ar sail yr adolygiad targed ar gyfer y
garreg filltir gyntaf a fydd yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yn 2024 a Bwrdd y
Rhaglen TB Buchol; b) camau i sicrhau bod
adolygu’r polisi o ladd ar ffermydd yn flaenoriaeth i’r Grŵp Cynghori
Technegol newydd ar TB Buchol; ac c) cynnwys undebau
ffermio ar Fwrdd newydd y Rhaglen TB. 4.
Yn gwrthwynebu’r gwaith o ddifa ar raddfa eang foch daear, sy’n rhywogaeth
gynhenid i Gymru, fel ffordd o reoli TB Buchol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8494 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Yn cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi arolwg NFU Cymru ar
TB mewn gwartheg yng Nghymru sy'n datgan: a) bod 70 y cant o ffermwyr yn
disgrifio dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB fel un gwael iawn; b) bod 85 y cant o ffermwyr yn
dweud bod TB yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl, a bod 63 y cant o'r
ffermwyr a holwyd yn beio bywyd gwyllt am drosglwyddo TB; ac c) y gost ariannol gyfartalog
amcangyfrifedig y flwyddyn i ffermydd a ddarparodd fanylion cost yw £25,677,
gyda data ar draws yr holl ymatebwyr yn dangos dros 30 y cant yn amcangyfrif
bod eu costau dros £10,000 a 13 y cant dros £50,000. 2. Yn gresynu at: a) y baich ariannol ac iechyd
meddwl aruthrol ar ffermwyr yng Nghymru a berir gan TB gwartheg; a b) y diystyriaeth barhaus o
farn arbenigol a thystiolaeth wyddonol gan Lywodraeth Cymru, ar draul gwartheg
Cymru a lles ariannol a meddyliol ffermwyr Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cynnal gwerthusiad ac
arfarniad hirdymor o reolaethau gwartheg cyfredol ar frys i bennu eu
heffeithiolrwydd cymharol wrth atal a rheoli trosglwyddo clefydau; b) gwneud newidiadau ar unwaith
i'r polisi lladd ar y fferm; c) sefydlu polisïau sy'n
adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy'n caniatáu dulliau difa a
rheoli priodol a gwyddonol dilys; a d) trafod gydag NFU Cymru, UAC
a chynrychiolwyr eraill o'r sector amaeth yng Nghymru i sefydlu ffordd newydd
ymlaen wrth bennu polisi TB gwartheg Cymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi’r ymgysylltu sy’n parhau gyda’r undebau
amaeth er mwyn datblygu dull o ddileu TB sy’n gadarn a hefyd yn addas i’w
diben. 2. Yn croesawu: a) y gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr sy’n dioddef
effaith ddifrifol TB ar eu fferm, gan gynnwys cefnogaeth gan Cymorth TB a hefyd
y cymorth gan Tir Dewi; Rhwydwaith y Gymuned Ffermio; FarmWell Cymru; Sefydliad
DPJ; a b) dull y Llywodraeth o lunio polisi sy’n seiliedig ar
dystiolaeth a chynnwys arbenigedd o’r radd flaenaf wrth ddatblygu polisi ar TB
gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis
Buchol yng Nghymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a
Phlanhigion y DU. 3. Yn cefnogi: a) camau i werthuso’n barhaus bolisi Llywodraeth Cymru ar
TB, ar sail yr adolygiad targed ar gyfer y garreg filltir gyntaf a fydd yn cael
ei gynnal yn nes ymlaen yn 2024 a Bwrdd y Rhaglen TB Buchol; b) camau i sicrhau bod adolygu’r polisi o ladd ar
ffermydd yn flaenoriaeth i’r Grŵp Cynghori Technegol newydd ar TB Buchol;
ac c) cynnwys undebau ffermio ar Fwrdd newydd y Rhaglen
TB. 4. Yn gwrthwynebu’r gwaith o ddifa ar raddfa eang foch
daear, sy’n rhywogaeth gynhenid i Gymru, fel ffordd o reoli TB Buchol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.13 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8487 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Yr
ymgyrch 'Spot Leukaemia' a mynediad at brofion gwaed Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.18 NDM8487 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Yr
ymgyrch 'Spot Leukaemia' a mynediad at brofion gwaed |