Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 190
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Am 13.30, cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.75, bod Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 14 Chwefror 2024. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.35 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Dwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y Genedl Noddfa Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.49 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.33 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Strategaethau 'Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol' ac 'Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: System a Siarter Budd-daliadau Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.57 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Wythnos ‘CaruUndebau’ Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.01 |
|||||||||
(5 munud) |
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 NDM8486 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd)
(Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2024. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.36 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8486 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn
ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2024. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(5 munud) |
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 NDM8485 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru)
(Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 09 Ionawr 2024. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.43 NDM8485 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn
ddrafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio
yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 09 Ionawr 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl: Setliad yr Heddlu 2024-25 NDM8482 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2)
2024-25 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.46 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8482 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn
cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2024-25 (Setliad Terfynol
– Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2024. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.07 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |