Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 184 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.32

(45 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi: Tata Steel

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.51

Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): Colli swyddi yn Tata Steel, a dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Strategaeth Tlodi Plant Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.00

(0 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi Blaenau’r Cymoedd - Gohiriwyd

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.08

(0 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Sefydliad Iechyd y Byd, Ewrop - Gohiriwyd

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(30 munud)

8.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.32

(30 munud)

9.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.02

(15 munud)

10.

Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024

NDM8455 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cael ei gwneud yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2023.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.32

NDM8455 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cael ei gwneud yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd Cyfnod Pleidleisio