Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 182
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 14.29 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd - Gohiriwyd tan 23 Ionawr Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem hon tan 23 Ionawr 2024 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r gaeaf mewn gofal iechyd Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 14.43 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ystadau Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 15.27 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 NDM8450 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth
Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cael
ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2023. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.54 NDM8450 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft
o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r
Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2023. Dogfennau
Ategol Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Ffyniant Bro NDM8449 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu
bod gan Gymru lai o lais dros arian, a hefyd yn tanseilio datganoli a’r Senedd
hon; b) bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi bod yn fethiant
llwyr nad yw wedi llwyddo i gymryd lle cronfeydd yr UE yng Nghymru, gan adael
diffyg o bron i £1.3 biliwn; ac c) bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Cronfeydd Ffyniant
Bro a’r Rhaglen Lluosi wedi’u llesteirio gan oedi a chamreoli gan Lywodraeth y
DU, gan roi straen ar awdurdodau lleol ac arwain at gau rhaglenni pwysig. 2. Yn galw am ailgyflwyno cyllid buddsoddi rhanbarthol i
Lywodraeth Cymru fel bod modd cyflawni yn unol â pholisïau datganoledig sy’n
llwyr atebol i’r Senedd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi bod cyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU yng
Nghymru yn fwy na £2.5 biliwn, a'i fod yn cyflwno prosiectau i
drawsnewid cymunedau, creu swyddi a thyfu'r economi. 2. Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig ar Gyllid Datblygu Rhanbarthol ar ôl Gadael yr UE a'i
argymhellion. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i
gynnal adolygiad ynghylch a ddylid darparu gwahanol elfennau o'r Gronfa
Ffyniant Gyffredin ar lefel leol, ranbarthol neu ledled Cymru. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol. Gwelliant 2 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegwu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1, ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn credu nad yw polisïau ffyniant bro Llywodraeth y
DU yn ffafriol i degwch o fewn Cymru ac wedi arwain at loteri cod post o ran
cymorth economaidd ledled Cymru, gan waethygu anghydraddoldebau rhanbarthol
rhwng cymunedau yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi methu â mynd i'r
afael â hwy. Yn credu y dylai pob penderfyniad ynghylch sut y caiff
arian ei wario yng Nghymru gael ei wneud yng Nghymru. Yn gresynu at y ffaith i Gymru gael ei thanariannu'n
hanesyddol o ganlyniad i Fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, gan fod hyn
yn gwaethygu effaith y diffyg mewn cyllid o'r Gronfa Ffyniant
Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro. Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw am: a) dychwelyd cyllid buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth
Cymru i ddarparu yn unol â pholisïau datganoledig sy'n gwbl atebol i'r
Senedd; b) Bil Tegwch Economaidd (Cymru) – gwarantu cyllid teg yn
seiliedig ar anghenion Cymru; c) mynd i'r afael â'r annhegwch ar draws setliadau
cyllido ac ariannol presennol Cymru, er enghraifft drwy ailddynodi HS2 a
Northern Powerhouse Rail fel prosiectau ar gyfer Lloegr yn unig, gan roi
cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i hynny. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.58 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8449 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais
dros arian, a hefyd yn tanseilio datganoli a’r Senedd hon; b)
bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi bod yn fethiant llwyr nad yw wedi llwyddo
i gymryd lle cronfeydd yr UE yng Nghymru, gan adael diffyg o bron i £1.3
biliwn; ac c)
bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Cronfeydd Ffyniant Bro a’r Rhaglen Lluosi
wedi’u llesteirio gan oedi a chamreoli gan Lywodraeth y DU, gan roi straen ar
awdurdodau lleol ac arwain at gau rhaglenni pwysig. 2.
Yn galw am ailgyflwyno cyllid buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth Cymru fel bod
modd cyflawni yn unol â pholisïau datganoledig sy’n llwyr atebol i’r Senedd. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi bod cyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU yng Nghymru yn fwy na £2.5
biliwn, a'i fod yn cyflwno prosiectau i drawsnewid cymunedau,
creu swyddi a thyfu'r economi. 2.
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
ar Gyllid Datblygu Rhanbarthol ar ôl Gadael yr UE a'i argymhellion. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad ynghylch a
ddylid darparu gwahanol elfennau o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar lefel
leol, ranbarthol neu ledled Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegwu
pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1, ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
credu nad yw polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn ffafriol i degwch o
fewn Cymru ac wedi arwain at loteri cod post o ran cymorth economaidd ledled
Cymru, gan waethygu anghydraddoldebau rhanbarthol rhwng cymunedau yng Nghymru y
mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi methu â mynd i'r afael â hwy. Yn
credu y dylai pob penderfyniad ynghylch sut y caiff arian ei wario yng Nghymru
gael ei wneud yng Nghymru. Yn
gresynu at y ffaith i Gymru gael ei thanariannu'n hanesyddol o ganlyniad i
Fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, gan fod hyn yn gwaethygu effaith
y diffyg mewn cyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant
Bro. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
galw am: a)
dychwelyd cyllid buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth Cymru i ddarparu yn
unol â pholisïau datganoledig sy'n gwbl atebol i'r Senedd; b)
Bil Tegwch Economaidd (Cymru) – gwarantu cyllid teg yn seiliedig ar anghenion
Cymru; c) mynd
i'r afael â'r annhegwch ar draws setliadau cyllido ac ariannol presennol Cymru,
er enghraifft drwy ailddynodi HS2 a Northern Powerhouse Rail fel
prosiectau ar gyfer Lloegr yn unig, gan roi cyllid canlyniadol i Gymru o
ganlyniad i hynny. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM8449 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth
y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais dros arian, a hefyd yn tanseilio
datganoli a’r Senedd hon; b) bod y Gronfa Ffyniant
Gyffredin wedi bod yn fethiant llwyr nad yw wedi llwyddo i gymryd lle cronfeydd
yr UE yng Nghymru, gan adael diffyg o bron i £1.3 biliwn; ac c) bod y Gronfa Ffyniant
Gyffredin, Cronfeydd Ffyniant Bro a’r Rhaglen Lluosi wedi’u llesteirio gan oedi
a chamreoli gan Lywodraeth y DU, gan roi straen ar awdurdodau lleol ac arwain
at gau rhaglenni pwysig. 2. Yn galw am ailgyflwyno
cyllid buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth Cymru fel bod modd cyflawni yn unol â
pholisïau datganoledig sy’n llwyr atebol i’r Senedd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.54 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |