Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 167(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/10/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod
hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1, 2 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y
bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi cymunedau yn
dilyn effaith Storm Babet? Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu
cymryd i sicrhau bod Dŵr Cymru yn cydymffurfio ag amodau ei drwydded
weithredol yn dilyn pryderon ynghylch cydymffurfiaeth â'r trwyddedau gollwng? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.08 Atebwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i
gefnogi cymunedau yn dilyn effaith Storm Babet? Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau
bod Dŵr Cymru yn cydymffurfio ag amodau ei drwydded weithredol yn dilyn
pryderon ynghylch cydymffurfiaeth â'r trwyddedau gollwng? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 Gwnaeth Alun Davies ddatganiad am - Dadorchuddio
cerflun o Roy Francis ym Mrynmawr (21 Hydref). Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Gŵyl
Newport Rising (4 Tachwedd). Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - Diwrnod
Ymwybyddiaeth Corachedd (25 Hydref). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Yr Holodomor NDM8381 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod yr
Holodomor yn drosedd a bennwyd ymlaen llaw, a gyflawnwyd ac a arweiniwyd gan
Stalin a'r Llywodraeth Sofietaidd yn erbyn pobl Wcráin. 2. Yn ystyried bod yr
Holodomor yn weithred o hil-laddiad. 3. Yn nodi rôl
hollbwysig y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, wrth ddod â chreulondeb yr
Holodomor i sylw'r byd. 4. Yn parhau i sefyll
gyda phobl Wcráin wrth iddynt wynebu rhyfel anghyfreithlon Putin. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.57 NDM8381 Alun Davies
(Blaenau Gwent) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod yr Holodomor yn drosedd a bennwyd ymlaen
llaw, a gyflawnwyd ac a arweiniwyd gan Stalin a'r Llywodraeth Sofietaidd yn
erbyn pobl Wcráin. 2. Yn ystyried bod yr Holodomor yn weithred o
hil-laddiad. 3. Yn nodi rôl hollbwysig y newyddiadurwr o Gymru, Gareth
Jones, wrth ddod â chreulondeb yr Holodomor i sylw'r byd. 4. Yn parhau i sefyll gyda phobl Wcráin wrth iddynt
wynebu rhyfel anghyfreithlon Putin. Cyd-gyflwynwyr Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Data perfformiad adrannau Damweiniau ac Achosion Brys NDM8390 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd
data ystyrlon a thryloyw wrth wella gofal a diogelwch cleifion. 2. Yn gresynu at
ganfyddiadau'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys nad yw prif ddata perfformiad
adrannau brys wedi'u hadrodd yn gywir ers dros ddegawd. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi ffigurau
cyn-rhyddhau fel mater o drefn ar gyfer adrannau brys Cymru er mwyn deall
perfformiad yn well a llywio'r broses o wneud penderfyniadau; b) esbonio pam mae'n
ymddangos bod y data perfformiad mewn ymatebion a ddarparwyd gan fyrddau iechyd
lleol Cymru i'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys o dan y Ddeddf Rhyddid
Gwybodaeth a data perfformiad yr adran achosion brys a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru yn wahanol; ac c)
comisiynu adolygiad annibynnol o ddata cyhoeddedig i sicrhau eu bod yn debyg
rhwng gwledydd y DU. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi'r sicrwydd gan
y byrddau iechyd bod data adrannau achosion brys wedi’u hadrodd yn unol â
chanllawiau Llywodraeth Cymru. Yn nodi bod y Swyddfa
Rheoleiddio Ystadegau annibynnol wedi croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru
wedi'u cymryd i roi sicrwydd ynghylch ansawdd yr ystadegau. Yn nodi, yn seiliedig
ar gydymffurfiaeth y byrddau iechyd â’r canllawiau sydd gennym yng Nghymru, yr
ystyrir bod modd cymharu ystadegau Cymru ar gyfer adrannau achosion brys mawr
â’r ystadegau ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys Math 1 yn Lloegr. Yn nodi ymhellach bod
gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau a chlinigwyr i
adolygu'r ffordd yr ydym yn mesur ansawdd y gofal mewn adrannau achosion brys. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi bod gan 82 y
cant o arweinwyr clinigol a meddygon ymgynghorol a arolygwyd gan y Coleg
Brenhinol Meddygaeth Frys olwg negyddol ar y polisi torri eithriadau. Yn gresynu bod
amseroedd aros damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu ers i'r polisi gael
ei gyflwyno dros ddeng mlynedd yn ôl. Yn credu bod y polisi
yn peryglu gallu'r gwasanaethau brys i gynllunio a rheoli eu hadnoddau yn
effeithiol. Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu
is-bwynt b) a rhoi yn ei le: dileu'r
polisi torri eithriadau yn unol â dymuniadau'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.22 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8390 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd data
ystyrlon a thryloyw wrth wella gofal a diogelwch cleifion. 2. Yn gresynu at ganfyddiadau'r
Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys nad yw prif ddata perfformiad adrannau brys
wedi'u hadrodd yn gywir ers dros ddegawd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cyhoeddi ffigurau
cyn-rhyddhau fel mater o drefn ar gyfer adrannau brys Cymru er mwyn deall
perfformiad yn well a llywio'r broses o wneud penderfyniadau; b) esbonio pam mae'n ymddangos
bod y data perfformiad mewn ymatebion a ddarparwyd gan fyrddau iechyd lleol
Cymru i'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a
data perfformiad yr adran achosion brys a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn
wahanol; ac c) comisiynu adolygiad
annibynnol o ddata cyhoeddedig i sicrhau eu bod yn debyg rhwng gwledydd y DU.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi'r sicrwydd gan y byrddau iechyd bod data adrannau
achosion brys wedi’u hadrodd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Yn nodi bod y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau annibynnol
wedi croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i roi sicrwydd
ynghylch ansawdd yr ystadegau. Yn nodi, yn seiliedig ar gydymffurfiaeth y byrddau iechyd
â’r canllawiau sydd gennym yng Nghymru, yr ystyrir bod modd cymharu ystadegau
Cymru ar gyfer adrannau achosion brys mawr â’r ystadegau ar gyfer adrannau
damweiniau ac achosion brys Math 1 yn Lloegr. Yn nodi ymhellach bod gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â
defnyddwyr gwasanaethau a chlinigwyr i adolygu'r ffordd yr ydym yn mesur
ansawdd y gofal mewn adrannau achosion brys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn nodi bod gan 82 y cant o arweinwyr clinigol a meddygon
ymgynghorol a arolygwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys olwg negyddol ar
y polisi torri eithriadau. Yn gresynu bod amseroedd aros damweiniau ac achosion brys
wedi gwaethygu ers i'r polisi gael ei gyflwyno dros ddeng mlynedd yn ôl. Yn credu bod y polisi yn peryglu gallu'r gwasanaethau
brys i gynllunio a rheoli eu hadnoddau yn effeithiol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt b) a rhoi yn ei le: dileu'r polisi torri eithriadau yn unol â dymuniadau'r
Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Trafnidiaeth Cymru NDM8389 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi ei bod yn
bum mlynedd ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd yr awenau dros fasnachfraint
rheilffyrdd Cymru gyfan gan Trenau Arriva Cymru. 2. Yn gresynu: a) bod darpariaeth
gwasanaeth trenau ledled Cymru yn parhau i fod yn annerbyniol o annibynadwy a
drud, gyda dim ond 57 y cant o wasanaethau yn cyrraedd yn brydlon rhwng mis
Ebrill a mis Mehefin 2023; b) dim ond 29 y cant o
deithiau a gaiff eu gwneud ar drenau newydd ar hyn o bryd, sydd ymhell islaw'r
targed o 95 y cant a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023; ac c) Trafnidiaeth Cymru
sydd â'r graddfeydd boddhad cwsmeriaid isaf o holl brif weithredwyr rheilffyrdd
y DU. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r
ymrwymiadau a wnaed, a sicrhau gwelliannau o ran prydlondeb ac uwchraddio'r
stoc, yn ogystal â chynllunio ar gyfer gwasanaethau digonol i gyd-fynd â
digwyddiadau mawr yng Nghymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle: Yn cydnabod effaith
perfformiad rheilffyrdd gwael diweddar ar deithwyr, gyda heriau'n cynnwys
trenau sy'n heneiddio ac yn annibynadwy, gweithredu diwydiannol mewn cwmnïau a
reolir gan Lywodraeth y DU, a'r pwysau ariannol parhaus a achosir gan COVID a
chwyddiant. Yn croesawu gwaith
Trafnidiaeth Cymru i sefydlogi perfformiad trenau ers mis Awst. Yn croesawu'r buddsoddiad
o £1.1 biliwn yn llinellau craidd y Cymoedd a'r buddsoddiad o £900 miliwn mewn
cerbydau rheilffyrdd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau. Yn edrych ymlaen at y
newid sylweddol i deithwyr wrth i gerbydau rheilffyrdd newydd gael eu cyflwyno
ar gyfer 95 y cant o deithiau erbyn 2024, yn unol â'r ymrwymiad yn y Rhaglen
Lywodraethu. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r achos busnes gan Trafnidiaeth Cymru i
gyfiawnhau'r £125 miliwn o gyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu i'r cwmni yn
y flwyddyn ariannol bresennol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8389 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi ei bod yn bum
mlynedd ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd yr awenau dros fasnachfraint
rheilffyrdd Cymru gyfan gan Trenau Arriva Cymru. 2. Yn gresynu: a) bod darpariaeth gwasanaeth
trenau ledled Cymru yn parhau i fod yn annerbyniol o annibynadwy a drud, gyda
dim ond 57 y cant o wasanaethau yn cyrraedd yn brydlon rhwng mis Ebrill a mis
Mehefin 2023; b) dim ond 29 y cant o deithiau
a gaiff eu gwneud ar drenau newydd ar hyn o bryd, sydd ymhell islaw'r targed o
95 y cant a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023; ac c) Trafnidiaeth Cymru sydd â'r
graddfeydd boddhad cwsmeriaid isaf o holl brif weithredwyr rheilffyrdd y DU. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed, a sicrhau
gwelliannau o ran prydlondeb ac uwchraddio'r stoc, yn ogystal â chynllunio ar
gyfer gwasanaethau digonol i gyd-fynd â digwyddiadau mawr yng Nghymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn cynnig.
Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn cydnabod effaith perfformiad rheilffyrdd gwael
diweddar ar deithwyr, gyda heriau'n cynnwys trenau sy'n heneiddio ac yn
annibynadwy, gweithredu diwydiannol mewn cwmnïau a reolir gan Lywodraeth y DU,
a'r pwysau ariannol parhaus a achosir gan COVID a chwyddiant. Yn croesawu gwaith Trafnidiaeth Cymru i sefydlogi
perfformiad trenau ers mis Awst. Yn croesawu'r buddsoddiad o £1.1 biliwn yn llinellau
craidd y Cymoedd a'r buddsoddiad o £900 miliwn mewn cerbydau rheilffyrdd ar
draws rhwydwaith Cymru a'r gororau. Yn edrych ymlaen at y newid sylweddol i deithwyr wrth i
gerbydau rheilffyrdd newydd gael eu cyflwyno ar gyfer 95 y cant o deithiau
erbyn 2024, yn unol â'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r achos busnes gan
Trafnidiaeth Cymru i gyfiawnhau'r £125 miliwn o gyllid ychwanegol sy'n cael ei
ddarparu i'r cwmni yn y flwyddyn ariannol bresennol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.22 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8388 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Ymwybyddiaeth o strôc
a'r ymgyrch FAST/NESA Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.29 NDM8388 Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Ymwybyddiaeth
o strôc a'r ymgyrch FAST/NESA |