Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 162 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd

Am 13.30, gwnaeth y Llywydd fynegi cydymdeimlad â’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau yn Israel a Gaza, a gwahoddodd Arweinwyr y Pleidiau i wneud datganiad.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.38

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.37

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.52

(60 munud)

4.

Dadl: Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru

NDM8372 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd ar ‘Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru’.

2. Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad a fydd o gymorth ar gyfer llunio polisïau yn y dyfodol o dan Cymru Iachach.

Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: 

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

3. Yn credu, os yw GIG Cymru am gael ei ddiogelu ar gyfer heriau'r dyfodol, mae’n hanfodol cadw'r gweithlu presennol a recriwtio rhagor o staff.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod gweithwyr y sector iechyd a gofal yn cael y codiad cyflog sy'n ddyledus iddynt ynghyd â thelerau ac amodau gwaith sy’n addas i'r diben, gan gynnwys arferion gweithio hyblyg a chyfleoedd hyfforddiant mewn gwaith; a

b) datblygu strategaeth gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8372 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd ar ‘Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru’.

2. Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad a fydd o gymorth ar gyfer llunio polisïau yn y dyfodol o dan Cymru Iachach.

Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

3. Yn credu, os yw GIG Cymru am gael ei ddiogelu ar gyfer heriau'r dyfodol, mae’n hanfodol cadw'r gweithlu presennol a recriwtio rhagor o staff.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod gweithwyr y sector iechyd a gofal yn cael y codiad cyflog sy'n ddyledus iddynt ynghyd â thelerau ac amodau gwaith sy’n addas i'r diben, gan gynnwys arferion gweithio hyblyg a chyfleoedd hyfforddiant mewn gwaith; a

b) datblygu strategaeth gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8372 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd ar ‘Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru’.

2. Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad a fydd o gymorth ar gyfer llunio polisïau yn y dyfodol o dan Cymru Iachach.

Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: Archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

5.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

(90 munud)

6.

Dadl: Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a dderbyniwyd gan y Senedd ar 27 Mehefin 2023.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1. Technegol

7, 8, 9, 10, 11, 12

2. Caffael gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n gysylltiedig â gwasanaethau iechyd fel rhan o gaffaeliadau cymysg

1, 5

3. Egwyddorion caffael a llywodraethiant y gwasanaeth iechyd

20, 15, 17

4. Effaith cysoni neu ddargyfeirio rheoleiddiol

2, 18

5. Gweithredu rheoliadau o dan adran 10A(1)

14, 16, 19, 23, 25

6. Rhan y sector gwirfoddol a’r trydydd sector

21

7. Ymgynghori ynghylch rheoliadau o dan adran 10A(1) o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006

22

8. Cydymffurfedd â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus

3

9. Rhyngweithio â’r cyd-destun polisi, deddfwriaethol a strategol ehangach

4

10. Adolygu gweithrediad rheoliadau o dan adran 10A

6

11. Gweithdrefn graffu ar gyfer rheoliadau o dan adran 10A(1)

24, 26, 13

Dogfennau Ategol

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli

Grwpio Gwelliannau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.45

Cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 fel y cytunwyd gan y Senedd ar 27 Mehefin 2023.

Derbyniwyd gwelliant 7, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 8, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 9, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 10, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 11, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 12, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 20:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd  ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 14:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 14.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 15:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd  ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 16:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 16.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 17:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gGwrthodwyd y gwelliant 17.

Ni chyflwynwyd gwelliant 18.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 19:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 21:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 21.

Derbyniwyd gwelliant 22, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Derbyniwyd gwelliant 6, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 23:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 24:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

 

Gwrthodwyd gwelliant 24.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 25:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 26:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 26.

Ni chyflwynwyd gwelliant 13.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: