Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 157 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/09/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Datganiad gan y Llywydd

Am 13.30, gwnaeth y Llywydd ddatganiad am naws y ddadl ddiweddar ar y rheoliadau 20mya a ddaeth i rym ar 17 Medi. Dywedodd fod gan bob Aelod ddyletswydd i sicrhau bod y Senedd yn sefydlu naws bwyllog, urddasol a pharchus ar gyfer trafodaeth gyhoeddus yng Nghymru.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd cwestiynau 1, 2 a 4-9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 1 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Chwarae Teg yn cau?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Chwarae Teg yn cau?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - Wythnos Addysg Oedolion (18-24 Medi)

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - 20 mlynedd o Kaleidoscope yng Nghymru, elusen sy’n darparu man diogel i ddefnyddwyr cyffuriau ddysgu a gwella.

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol (Medi)

(30 munud)

5.

Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

NDM8354 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2022-23, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 29 Mehefin 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.33

NDM8354 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2022-23, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 29 Mehefin 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl Plaid Cymru - Ynni gwyrdd

NDM8355 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod canlyniad yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer ynni gwynt ar y môr yn golygu na fydd ffermydd gwynt newydd ar y môr yn cael eu datblygu yng Nghymru hyd y gellir rhagweld.

2. Yn nodi bod adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol ar gyfer y DU gyfan ar gynnydd agenda datgarboneiddio Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyflawni ei nodau Sero Net erbyn 2050.

3. Yn nodi bod adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar Gytundeb Paris yn pwysleisio'r angen i allyriadau tanwydd ffosil gyrraedd uchafbwynt erbyn 2025 fan bellaf er mwyn sicrhau bod cynhesu byd-eang wedi'i gyfyngu i 1.5 gradd yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol.

4. Yn credu bod gan Gymru y potensial i fod yn bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy.

5. Yn credu bod y potensial hwn yn cael ei wastraffu ar hyn o bryd o ganlyniad i ddulliau polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol werdd newydd i Gymru wireddu ei photensial economaidd mewn ynni gwyrdd a sicrhau bod cynnydd tuag at ei nodau Sero Net yn cael ei gyflymu.

Progress report: Reducing emissions in Wales (Saesneg yn unig)

United Nations: Technical dialogue of the first global stocktake (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn llongyfarch cyrff cyhoeddus a busnesau yng Ngogledd Cymru am lwyddo i sicrhau arian ar gyfer y cyflwyniad mwyaf erioed o dechnoleg ynni llif y llanw yng Nghymru trwy ddyfarniad Rownd 5 diweddaraf y Contract ar gyfer Gwahaniaeth.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i gyflymu cyflwyno tyrbinau gwynt alltraeth arnofiol, gan gynnwys gweithredu argymhellion Tasglu Cyflymu Gwynt Alltraeth

3. Yn cydnabod sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu llwybrau datgarboneiddio ar gyfer diwydiant.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a)    ymateb ar fyrder i argymhellion yr adroddiad cynnydd diweddaraf ar Gymru gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gan gynnwys paratoi cynlluniau i sicrhau gostyngiad o 10% yn y car-km y person erbyn 2030, pennu llwybr datgarboneiddio ar gyfer amaethyddiaeth a chyflymu cyfraddau plannu coed trwy chwalu rhwystrau anariannol.

b)    sicrhau bod Ynni Cymru’n galluogi cymunedau i chware rhan hanfodol yn y broses o wneud Cymru’n bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy.

c)    sicrhau bod Trydan Gwyrdd Cymru’n helpu i gynyddu’r manteision economaidd i Gymru a ddaw trwy’r trawsnewid ynni trwy roi incwm i’r pwrs cyhoeddus a sbarduno cadwyni cyflenwi Cymreig.

5. Yn cytuno â chanfyddiadau adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar Ddeialog Dechnegol y Stoc-gyfrif Byd-eang cyntaf ar weithredu Cytundeb Paris bod modd osgoi effeithiau gwaetha'r newid yn yr hinsawdd os bydd pob gwlad yn cymryd camau eofn i gyflawni targedau anodd.

Offshore Wind Acceleration Taskforce (Saesneg yn unig)

Climate Change Committee Progress Report: Reducing Emissions in Wales (Saesneg yn unig)

UN report on the Technical Dialogue of the first Global Stocktake on the implementation of the Paris Agreement (Saesneg yn unig)

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer contractau ynni adnewyddadwy wedi arwain at 3.7GW o brosiectau pŵer solar, gwynt ar y tir a phŵer llanw ledled y DU.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn diddymu grantiau ardrethi busnes ar gyfer prosiectau hydrodrydanol ar raddfa fach.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer contractau ynni adnewyddadwy wedi arwain at 3.7GW o brosiectau pŵer solar, gwynt ar y tir a phŵer llanw ledled y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn diddymu grantiau ardrethi busnes ar gyfer prosiectau hydrodrydanol ar raddfa fach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y gyllideb iechyd

NDM8356 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi honiadau'r Prif Weinidog bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus Cymru wneud toriadau oherwydd diffyg o £900m yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diweddar.

3. Yn gresynu, er bod Llywodraeth Cymru yn derbyn 20 y cant yn fwy i'w wario ar iechyd yng Nghymru na'r hyn a gaiff ei wario fesul person ar iechyd yn Lloegr, nid yw'r holl gyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu ar hyn o bryd i GIG Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd yn cael ei diogelu rhag unrhyw doriadau pellach yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi honiadau'r Prif Weinidog bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus Cymru wneud toriadau oherwydd diffyg chwyddiant o £900m mewn termau real ers yr adolygiad o wariant yn 2021.

2. Yn credu bod Llywodraethau San Steffan wedi methu â darparu cyllid teg a digonol i Gymru ers dechrau datganoli.

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ragweld yr anawsterau ariannol hyn a pharatoi atynt.

4. Yn gresynu at y diffyg cyfleoedd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'r Senedd graffu ar unrhyw doriadau arfaethedig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ar gyfer pob gwasanaeth rheng flaen, gan gynnwys y GIG.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 23/24, adeg Cyllideb Gwanwyn y DU, yn werth £900m yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd ar adeg yr Adolygiad o Wariant y DU yn 2021.

2.    Yn gresynu at yr effaith ar Gymru yn sgil camreolaeth o economi ac arian cyhoeddus y DU gan lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan.

3.    Yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, a seilwaith cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8356 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi honiadau'r Prif Weinidog bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus Cymru wneud toriadau oherwydd diffyg o £900m yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diweddar.

3. Yn gresynu, er bod Llywodraeth Cymru yn derbyn 20 y cant yn fwy i'w wario ar iechyd yng Nghymru na'r hyn a gaiff ei wario fesul person ar iechyd yn Lloegr, nid yw'r holl gyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu ar hyn o bryd i GIG Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd yn cael ei diogelu rhag unrhyw doriadau pellach yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi honiadau'r Prif Weinidog bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus Cymru wneud toriadau oherwydd diffyg chwyddiant o £900m mewn termau real ers yr adolygiad o wariant yn 2021.

2. Yn credu bod Llywodraethau San Steffan wedi methu â darparu cyllid teg a digonol i Gymru ers dechrau datganoli.

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ragweld yr anawsterau ariannol hyn a pharatoi atynt.

4. Yn gresynu at y diffyg cyfleoedd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'r Senedd graffu ar unrhyw doriadau arfaethedig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ar gyfer pob gwasanaeth rheng flaen, gan gynnwys y GIG.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 23/24, adeg Cyllideb Gwanwyn y DU, yn werth £900m yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd ar adeg yr Adolygiad o Wariant y DU yn 2021.

2.    Yn gresynu at yr effaith ar Gymru yn sgil camreolaeth o economi ac arian cyhoeddus y DU gan lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan.

3.    Yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, a seilwaith cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

14

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8356 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 23/24, adeg Cyllideb Gwanwyn y DU, yn werth £900m yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd ar adeg yr Adolygiad o Wariant y DU yn 2021.

2.    Yn gresynu at yr effaith ar Gymru yn sgil camreolaeth o economi ac arian cyhoeddus y DU gan lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan.

3.    Yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, a seilwaith cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

15

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 17.54

Atebwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ei bod yn ystyried gohirio'r gwaharddiad ar werthu ceir petrol a diesel newydd tan 2035 yn effeithio ar ymrwymiadau sero net Cymru?

Am 18.03, cododd Darren Millar Bwynt o Drefn yn nodi mai diben Cwestiwn Brys oedd gofyn cwestiwn i Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Llywydd y gallai Aelodau Ceidwadol o’r Senedd ofyn eu cwestiynau eu hunain i’r Gweinidog drwy wneud cais i siarad.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.16

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(0 munud)

9.

Dadl Fer - Tynnwyd yn ôl

NDM8353 Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)

Dim rhagor o ddatganoli: mae Cymru wedi mynd yn ei hol o dan Lafur Cymru, mae effaith Llywodraeth Cymru wedi bod yn druenus o ddi-nod, ac ni ddylid datganoli rhagor o bwerau.

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl