Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 121(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhalwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1, 2 a 4-9 ac 11. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gweledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.17

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.26

Am 15.46 cododd Alun Davies bwynt o drefn yn ymwneud â’r cyfle i Aelodau o’r Senedd graffu ar waith Aelodau Dynodedig o dan y Cytundeb Cydweithio yn ystod trafodion y Senedd. Nododd y Dirprwy Lywydd y byddai hyn yn cael ei ystyried.

Am 15.47 cododd Janet Finch-Saunders bwynt o drefn mewn cysylltiad â chywirdeb dau bwynt a wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei ymateb cynnar i’w chwestiynau. Nododd y Dirprwy Lywydd y byddai’r Dirprwy Weinidog yn adolygu’r trawsgrifiad ac yn cywiro unrhyw anghywirdebau pe bai angen.

 

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.14

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.34

Am 17.03, rhoddodd y Dirprwy Lywydd ei farn ar y defnydd o’r gair ‘insane’ gan un Aelod yn ystod eitem 3 yn gynharach heddiw. Er ei fod yn cyfeirio at benderfyniad gan y llywodraeth, ac nid at unigolyn, datganodd bod yr iaith a ddefnyddiwyd yn amhriodol a gwahoddodd yr Aelod i fyfyrio arno a sicrhau bod cyfraniadau yn y dyfodol yn barchus tuag at bawb.

 

(0 munud)

7.

Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 - TYNNWYD YN ÔL

NDM8202 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl

(30 munud)

8.

Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24

NDM8201 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2023-24 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.04

NDM8201 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2022-23 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd Cyfnod Pleidleisio