Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 58
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.24 Gofynnwyd
cwestiynau 1-8 a 11. Cafodd cwestiynau 1 a 3 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Cwestiwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad ar benderfynaid Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ddynodi
gwasanaethau fasgiwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel gwasanaeth
sydd angen gwelliant sylweddol? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.08 [Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol] Rhun
ap Iorwerth: A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ddynodi
gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel gwasanaeth
sydd angen gwelliant sylweddol? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.16 Gwnaeth
Elin Jones ddatganiad yn talu teyrnged i Dai Jones, Llanilar. Gwnaeth
Paul Davies ddatganiad ar Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd – hyrwyddo pwysigrwydd
addysg yrfaoedd dda mewn ysgolion a cholegau. Gwnaeth
Luke Fletcher ddatganiad yn amlygu pwysigrwydd heulforgwn (Basking Sharks) a’r
heriau sy’n eu hwynebu. (Fel hyrwyddwr rhywogaeth). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Datganoli Plismona NDM7925 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig bod y Senedd: Yn cefnogi datganoli plismona. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Cefnogwyr Sarah Murphy
(Pen-y-bont ar Ogwr) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.21 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7925 Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod y Senedd: Yn
cefnogi datganoli plismona. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Cefnogwyr Sarah Murphy
(Pen-y-bont ar Ogwr) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Wcráin NDM7945 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar
Wcráin. 2. Yn mynegi undod â phobl Wcráin. 3. Yn cydnabod bod pobl Wcráin yn dioddef
o ganlyniad i golli bywyd ac anafiadau, gan dalu'r pris am y rhyfel
erchyll hwn. 4. Yn cydnabod hawliau NATO i amddiffyn ei aelodau ac yn
cefnogi Llywodraeth Wcráin wrth iddi amddiffyn ei gwlad. 5. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu
cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i'r rhai mewn angen a lloches ddiogel
i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i: a) cyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml,
cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU; b) dileu'r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth
fiometrig cyn gadael Wcráin; c) rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a'r
cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi’r ymdrechion adsefydlu. Cyd-gyflwynwyr: Gwelliant 2 Siân
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod y gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o ryfel
niwclear ac ofn rhyfel niwclear ymhlith pobl yng Nghymru a thu hwnt, ac felly'n
galw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear i lofnodi a
chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear a ddaeth i
rym ym mis Ionawr 2021, ac a fyddai'n atal bygythiad o'r fath yn y dyfodol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.09 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7945 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at ymosodiad
Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin. 2. Yn mynegi undod â phobl
Wcráin. 3. Yn
cydnabod bod pobl Wcráin yn dioddef o
ganlyniad i golli bywyd ac anafiadau, gan dalu'r pris am y rhyfel
erchyll hwn. 4. Yn cydnabod hawliau NATO i
amddiffyn ei aelodau ac yn cefnogi Llywodraeth Wcráin wrth iddi amddiffyn ei
gwlad. 5. Yn croesawu'r camau y mae
Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i'r rhai mewn
angen a lloches ddiogel i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i: a) cyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml,
cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU; b) dileu'r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth
fiometrig cyn gadael Wcráin; c) rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a'r
cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi’r ymdrechion adsefydlu. Cyd-gyflwynwyr: Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod y gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o ryfel
niwclear ac ofn rhyfel niwclear ymhlith pobl yng Nghymru a thu hwnt, ac felly'n
galw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear i lofnodi a
chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear a ddaeth i
rym ym mis Ionawr 2021, ac a fyddai'n atal bygythiad o'r fath yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7945 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at ymosodiad
Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin. 2. Yn mynegi undod â phobl
Wcráin. 3. Yn
cydnabod bod pobl Wcráin yn dioddef o
ganlyniad i golli bywyd ac anafiadau, gan dalu'r pris am y rhyfel
erchyll hwn. 4. Yn cydnabod hawliau NATO i
amddiffyn ei aelodau ac yn cefnogi Llywodraeth Wcráin wrth iddi amddiffyn ei
gwlad. 5. Yn croesawu'r camau y mae
Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i'r rhai mewn
angen a lloches ddiogel i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro. 6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i: a) cyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml,
cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU; b) dileu'r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth
fiometrig cyn gadael Wcráin; c) rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a'r
cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi’r ymdrechion adsefydlu. 7. Yn cydnabod bod y gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o
ryfel niwclear ac ofn rhyfel niwclear ymhlith pobl yng Nghymru a thu hwnt, ac
felly'n galw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear i
lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear a
ddaeth i rym ym mis Ionawr 2021, ac a fyddai'n atal bygythiad o'r fath yn y
dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai NDM7946 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod angen hyd at 12,000 o anheddau newydd
y flwyddyn yng Nghymru. 2. Yn mynegi pryder difrifol bod nifer yr anheddau newydd
a ddechreuwyd wedi gostwng 30 y cant i 4,314 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a
bod nifer y cartrefi a gwblhawyd wedi gostwng 23 y cant i 4,616. 3. Yn credu bod y methiant i adeiladu mwy o gartrefi yng
Nghymru yn cael effaith andwyol ar argaeledd eiddo. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) hwyluso'r gwaith o adeiladu 12,000 o gartrefi y
flwyddyn; b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, ailfuddsoddi
enillion gwerthiant i fwy o dai cymdeithasol a diogelu cartrefi rhag cael eu
gwerthu am 10 mlynedd; c) gweithio gydag awdurdodau cynllunio i weld mwy o dir
yn cael ei ddyrannu mewn cymunedau sy'n wynebu anawsterau fforddiadwyedd lleol,
gan gynnwys sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer prosiectau hunanadeiladu; d) rhoi'r gorau i'r cynlluniau ar gyfer cwmni adeiladu
cenedlaethol a chefnogi twf y sector adeiladu cartrefi preifat. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu hwynebu
sy’n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru. 2. Yn croesawu’r buddsoddiad ym maes tai gan Lywodraeth
Cymru. 3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000
o dai cymdeithasol carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon. 4. Yn nodi’r
ymrwymiad i sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i gefnogi ein cynghorau
a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a
fforddiadwy. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7946 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod angen hyd at
12,000 o anheddau newydd y flwyddyn yng Nghymru. 2. Yn mynegi pryder difrifol
bod nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd wedi gostwng 30 y cant i 4,314 yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod nifer y cartrefi a gwblhawyd wedi gostwng 23 y
cant i 4,616. 3. Yn credu bod y methiant i
adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru yn cael effaith andwyol ar argaeledd eiddo. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) hwyluso'r gwaith o adeiladu
12,000 o gartrefi y flwyddyn; b) adfer yr hawl i brynu yng
Nghymru, ailfuddsoddi enillion gwerthiant i fwy o dai cymdeithasol a diogelu
cartrefi rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd; c) gweithio gydag awdurdodau
cynllunio i weld mwy o dir yn cael ei ddyrannu mewn cymunedau sy'n wynebu
anawsterau fforddiadwyedd lleol, gan gynnwys sicrhau bod mwy o dir ar gael ar
gyfer prosiectau hunanadeiladu; d) rhoi'r gorau i'r cynlluniau
ar gyfer cwmni adeiladu cenedlaethol a chefnogi twf y sector adeiladu cartrefi
preifat.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai
yn eu hwynebu sy’n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru. 2. Yn croesawu’r buddsoddiad ym maes tai gan
Lywodraeth Cymru. 3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth
hon. 4. Yn nodi’r ymrwymiad i
sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i gefnogi ein cynghorau a
landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7946 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) 1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn
eu hwynebu sy’n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru. 2. Yn croesawu’r buddsoddiad ym maes tai gan
Lywodraeth Cymru. 3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon. 4. Yn nodi’r ymrwymiad i
sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i gefnogi ein cynghorau a
landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.16 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.21 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.27 NDM7944 Rhys ab Owen
(Canol De Cymru) Diogelu
mannau cymunedol: adfer rheolaeth |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |