Agenda
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 323
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. |
|
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad |
|
(60 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg NDM9101 Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1555
Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru
gyfan. Mynediad am ddim at addysg.’ a gasglodd 11,790 o lofnodion. |
|
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Treth Trafodiadau Tir NDM9100 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau'r
Ceidwadwyr Cymreig i ddileu treth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd
yng Nghymru. |
|
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Etholiad y Senedd NDM9102 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai
2026. 2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain
Cymru o’r newydd. 3. Yn galw am weithredu cynigion Plaid Cymru i: a) cyflwyno cynllun rhestrau aros i glirio'r ôl-groniad
presennol, i roi'r GIG ar sylfaen fwy cynaliadwy a sicrhau nad yw cleifion yn
aros blynyddoedd mewn poen am driniaeth; b) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd, gan
ddarparu 'siop un stop' ar gyfer cymorth busnes, gan gefnogi a thyfu busnesau
Cymreig ym mhob cam o'u datblygiad; c) cyflwyno cynnig gofal plant sy’n darparu o leiaf 20
awr yr wythnos i bob plentyn, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a
chaniatáu i rieni ddychwelyd i'r gwaith; d) cyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol i
sefydlu meincnodau cenedlaethol, darparu cefnogaeth wedi'i thargedu, a sicrhau
addysgu o ansawdd uchel a thracio cynnydd tryloyw; ac e) cyflwyno bil Cymru newydd i sicrhau cydraddoldeb
pwerau datganoledig â'r Alban, fel dull angenrheidiol i ddatgloi potensial
Cymru. 4. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru
wedi arwain at: a) dros 8,700 o lwybrau gofal yn aros dros ddwy flynedd
am driniaeth, er gwaethaf y targed i ddileu amseroedd aros o'r fath yn llwyr
erbyn mis Mawrth 2023; b) cyfraddau incwm gwario gros isaf y pen ac incwm
sylfaenol y pen yng Nghymru sydd yr ail isaf o holl genhedloedd a rhanbarthau'r
DU, gyda'r ddau yn gostwng fel cyfran o gyfartaledd y DU; ac c) sgoriau PISA Cymru mewn llythrennedd a rhifedd sydd yr
isaf erioed ers cymryd rhan yn y rhaglen am y tro cyntaf yn 2006, a'r isaf
ymhlith cenhedloedd y DU am y pumed tro yn olynol. 5. Yn gresynu ymhellach fod partneriaeth mewn pwêr Llafur
wedi gadael Cymru i lawr. |
|
|
Cyfnod pleidleisio |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM9096 Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr) Codi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14 yng Nghymru |
|
(60 munud) |
Dadl: Cyfnod 3 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) Yn amodol ar dderbyn y cynnig o dan eitem 13 ar yr agenda
ar gyfer y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr. |
|
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) Yn amodol ar dderbyn y cynnig o dan eitem 13 ar yr agenda
ar gyfer y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr. |
|
|
Cyfnod pleidleisio |
PDF 210 KB