Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 310 (v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/11/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.28

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 5. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.56

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: COP30 ac Wythnos Hinsawdd Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol ar Gam-drin Pobl Hyn

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

(60 munud)

6.

Dadl: Cofio

NDM9036 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru, ac eleni rydym yn coffáu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) a Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (VJ).

2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob cwr o Gymru sy'n gwasanaethu nawr neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog a chyn-filwyr ledled Cymru.

4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel, gan nodi'r ansicrwydd yn y byd sydd ohoni.

5. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys sifiliaid a gafodd eu hanafu a'u lladd.

Cyd-gyflwynwyr

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. 

7.

Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

NDM9038 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).

Gosodwyd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 2 Mehefin 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) gerbron y Senedd ar 24 Hydref 2025.

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM9038 Huw Irranca-Davies AS (Ogwr)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).

Gosodwyd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 2 Mehefin 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) gerbron y Senedd ar 24 Hydref 2025.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

1

51

Derbyniwyd y cynnig.

8.

Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

NDM9039 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM9039 Huw Irranca-Davies AS (Ogwr)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

1

51

Derbyniwyd y cynnig.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 18.31 a gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 18.36

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: