Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 307 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn ateb cwestiynau ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. 

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. 
Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru) ar ôl cwestiwn 2. 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. 
Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.17 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(15 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.07 

Gofynnwyd y 3 cwestiwn cyntaf.

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad ar ddathlu gyrfa Jess Fishlock, a diolch iddi.

(30 munud)

6.

Dadl ar ddeiseb: P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo

NDM9020 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo’ a gasglodd 17,883 o lofnodion. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20 

NDM9020 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)   

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo’ a gasglodd 17,883 o lofnodion. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Codi tâl am arddangosfeydd

NDM9021 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Codi tâl am arddangosfeydd’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025. 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2025. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13 

NDM9021 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)   

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Codi tâl am arddangosfeydd’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025. 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2025. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - deilliannau addysgol

NDM9022 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn gresynu: 

a) bod canlyniadau diweddaraf y Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA) yn dangos bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'r lefel isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl genhedloedd y DU am y pumed tro yn olynol; a 

b) bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau cyllyll mewn ysgolion yng Nghymru ar eu lefelau uchaf erioed. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau addysgol a chywirdeb academaidd drwy: 

a) gwella atebolrwydd drwy gyflwyno arolygiadau ysgolion mwy trylwyr; 

b) datblygu cronfa ddata hygyrch, newydd o berfformiad ysgolion Cymru i hyrwyddo dewis dysgwyr a rhieni; 

c) galluogi sefydlu ysgolion academi yng Nghymru i annog arloesedd; 

d) adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion drwy fynd i'r afael ag ymddygiad gwael, gan gynnwys gwahardd dysgwyr sy'n dod â chyllyll ac arfau eraill i mewn i ysgol; 

e) gwella'r nifer o athrawon a gedwir, ac awdurdod athrawon drwy ddileu heriau disgyblion; 

f) grymuso ysgolion i wahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru, ac annog plant i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg yn ddiogel; 

g) trwytho cywirdeb yn ein system addysg drwy ei gwneud yn ofynnol i addysgu ffoneg; a 

h) sicrhau cwricwlwm pwrpasol sy'n cefnogi'r gwaith o ffurfio sgiliau hanfodol bywyd, gan gynnwys economeg y cartref yn orfodol a phwysigrwydd cyfrifoldeb personol, bwyta'n iach, cyllidebu a byw'n annibynnol. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:   
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)   
Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, sy'n tynnu sylw at heriau parhaus mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol ar draws ysgolion Cymru, ochr yn ochr â materion recriwtio a chadw athrawon difrifol yn y proffesiwn addysg. 

2. Yn gresynu tuag at fethiannau dan Lywodraeth Llafur Cymru, ble mae: 

a) safonau addysg wedi gostwng, gan gofnodi’r canlyniadau PISA isaf erioed i Gymru mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2022; 

b) targedau recriwtio athrawon wedi eu methu ers bron i ddegawd; a 

c) un o bob pedair ysgol gynradd heb fynediad at ofod llyfrgell pwrpasol. 

3. Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i wneud codi safonau addysg yn genhadaeth genedlaethol mewn Llywodraeth, drwy sefydlu: 

a) cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol, gan gynnwys: 

i) meincnodau cenedlaethol ar gyfer sgiliau craidd; 

ii) ymyrraeth gynnar i ddisgyblion sy'n disgyn yn ôl; 

iii) datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athrawon; a 

iv) olrhain ac adrodd cynnydd tryloyw; 

b) gofod llyfrgell ym mhob ysgol gynradd; 

c) menter darllen ar draws y cwricwlwm i ymgorffori llythrennedd ym mhob pwnc ar lefel uwchradd; a 

d) strategaeth recriwtio a chadw athrawon teg a chystadleuol. 

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi: 

a) bod yr adroddiad asesiadau personol cenedlaethol diweddaraf yn dangos gwelliant mewn darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg a bod rhifedd yn gwella i'n dysgwyr ieuengaf; a 

b) bod presenoldeb yn yr ysgol wedi gwella yn 2024-25, gan godi i 89.1 y cant o 88 y cant yn y flwyddyn flaenorol sy’n rhan o drywydd cadarnhaol sy'n gwrthdroi'r dirywiad a welwyd yn ystod blynyddoedd y pandemig. 

2. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i: 

a) sicrhau dull systematig o addysgu ffoneg yn y Cwricwlwm i Gymru, a gefnogir drwy sefydlu set o raglenni dysgu proffesiynol ar lythrennedd, ffoneg a rhifedd sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, i'w cyflwyno gan Dysgu, ein sefydliad dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol newydd; 

b) darparu set gliriach o ddisgwyliadau a gwybodaeth am ysgolion trwy gymryd rhan yn PIRLS (Progress in International Reading Literacy Study) a TIMSS (Trends in International Mathematics and Science Study), a datblygu disgwyliadau mwy manwl o ran llythrennedd a rhifedd ar gyfer ysgolion; 

c) bwrw ymlaen â chamau gweithredu ar y cyd yn dilyn yr Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad mewn Ysgolion a Cholegau yng Nghymru, gan gynnwys fforymau newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion a gwahardd a chadw ar ôl ysgol, gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau llafur; 

d) ariannu ystod o raglenni i gefnogi ysgolion i ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau, gan gynnwys buddsoddi £9.5 miliwn mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a £2 filiwn mewn gweithgareddau cyfoethogi i fynd i'r afael â dadrithiad; 

e) buddsoddi dros £13 miliwn bob blwyddyn yn ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant emosiynol a meddyliol, gan gynnwys cyllid i gefnogi llesiant staff ysgolion; 

f) ddatblygu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg i ystyried yr ystod o faterion gwahanol sy’n wynebu’r gweithlu yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio a chadw, llesiant a materion yn ymwneud â chynorthwywyr addysgu a chyflenwi ar gyfer absenoldeb; a 

g) adeiladu system gwella ysgolion cydlynol newydd sy'n rhoi lle canolog i ysgolion, ac yn cyd-fynd â chylch arolygu mwy rheolaidd Estyn. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM9022 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn gresynu: 

a) bod canlyniadau diweddaraf y Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA) yn dangos bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'r lefel isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl genhedloedd y DU am y pumed tro yn olynol; a 

b) bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau cyllyll mewn ysgolion yng Nghymru ar eu lefelau uchaf erioed. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau addysgol a chywirdeb academaidd drwy: 

a) gwella atebolrwydd drwy gyflwyno arolygiadau ysgolion mwy trylwyr; 

b) datblygu cronfa ddata hygyrch, newydd o berfformiad ysgolion Cymru i hyrwyddo dewis dysgwyr a rhieni; 

c) galluogi sefydlu ysgolion academi yng Nghymru i annog arloesedd; 

d) adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion drwy fynd i'r afael ag ymddygiad gwael, gan gynnwys gwahardd dysgwyr sy'n dod â chyllyll ac arfau eraill i mewn i ysgol; 

e) gwella'r nifer o athrawon a gedwir, ac awdurdod athrawon drwy ddileu heriau disgyblion; 

f) grymuso ysgolion i wahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru, ac annog plant i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg yn ddiogel; 

g) trwytho cywirdeb yn ein system addysg drwy ei gwneud yn ofynnol i addysgu ffoneg; a 

h) sicrhau cwricwlwm pwrpasol sy'n cefnogi'r gwaith o ffurfio sgiliau hanfodol bywyd, gan gynnwys economeg y cartref yn orfodol a phwysigrwydd cyfrifoldeb personol, bwyta'n iach, cyllidebu a byw'n annibynnol. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

1

35

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)   
Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, sy'n tynnu sylw at heriau parhaus mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol ar draws ysgolion Cymru, ochr yn ochr â materion recriwtio a chadw athrawon difrifol yn y proffesiwn addysg. 

2. Yn gresynu tuag at fethiannau dan Lywodraeth Llafur Cymru, ble mae: 

a) safonau addysg wedi gostwng, gan gofnodi’r canlyniadau PISA isaf erioed i Gymru mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2022; 

b) targedau recriwtio athrawon wedi eu methu ers bron i ddegawd; a 

c) un o bob pedair ysgol gynradd heb fynediad at ofod llyfrgell pwrpasol. 

3. Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i wneud codi safonau addysg yn genhadaeth genedlaethol mewn Llywodraeth, drwy sefydlu: 

a) cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol, gan gynnwys: 

i) meincnodau cenedlaethol ar gyfer sgiliau craidd; 

ii) ymyrraeth gynnar i ddisgyblion sy'n disgyn yn ôl; 

iii) datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athrawon; a 

iv) olrhain ac adrodd cynnydd tryloyw; 

b) gofod llyfrgell ym mhob ysgol gynradd; 

c) menter darllen ar draws y cwricwlwm i ymgorffori llythrennedd ym mhob pwnc ar lefel uwchradd; a 

d) strategaeth recriwtio a chadw athrawon teg a chystadleuol. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

40

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)  
Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi: 

a) bod yr adroddiad asesiadau personol cenedlaethol diweddaraf yn dangos gwelliant mewn darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg a bod rhifedd yn gwella i'n dysgwyr ieuengaf; a 

b) bod presenoldeb yn yr ysgol wedi gwella yn 2024-25, gan godi i 89.1 y cant o 88 y cant yn y flwyddyn flaenorol sy’n rhan o drywydd cadarnhaol sy'n gwrthdroi'r dirywiad a welwyd yn ystod blynyddoedd y pandemig. 

2. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i: 

a) sicrhau dull systematig o addysgu ffoneg yn y Cwricwlwm i Gymru, a gefnogir drwy sefydlu set o raglenni dysgu proffesiynol ar lythrennedd, ffoneg a rhifedd sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, i'w cyflwyno gan Dysgu, ein sefydliad dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol newydd; 

b) darparu set gliriach o ddisgwyliadau a gwybodaeth am ysgolion trwy gymryd rhan yn PIRLS (Progress in International Reading Literacy Study) a TIMSS (Trends in International Mathematics and Science Study), a datblygu disgwyliadau mwy manwl o ran llythrennedd a rhifedd ar gyfer ysgolion; 

c) bwrw ymlaen â chamau gweithredu ar y cyd yn dilyn yr Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad mewn Ysgolion a Cholegau yng Nghymru, gan gynnwys fforymau newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion a gwahardd a chadw ar ôl ysgol, gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau llafur; 

d) ariannu ystod o raglenni i gefnogi ysgolion i ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau, gan gynnwys buddsoddi £9.5 miliwn mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a £2 filiwn mewn gweithgareddau cyfoethogi i fynd i'r afael â dadrithiad; 

e) buddsoddi dros £13 miliwn bob blwyddyn yn ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant emosiynol a meddyliol, gan gynnwys cyllid i gefnogi llesiant staff ysgolion; 

f) ddatblygu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg i ystyried yr ystod o faterion gwahanol sy’n wynebu’r gweithlu yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio a chadw, llesiant a materion yn ymwneud â chynorthwywyr addysgu a chyflenwi ar gyfer absenoldeb; a 

g) adeiladu system gwella ysgolion cydlynol newydd sy'n rhoi lle canolog i ysgolion, ac yn cyd-fynd â chylch arolygu mwy rheolaidd Estyn. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM9023 Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)  

Diogelwch, tegwch a chydymffurfio â'r gyfraith: Dyfarniad y Goruchaf Lys ar ystyr 'rhyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a'i bwysigrwydd i Gymru. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38