Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 288 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/06/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1–7 a 9. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.20

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Swyddi

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.52

(0 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran cyflwyno’r Cwricwlwm - Tynnwyd yn ôl

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

(45 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar y Môr

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

(5 munud)

7.

Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)

NDM8933 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-4;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 5-40;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 41-65; ac

f) Teitl Hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.43

NDM8933 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-4;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 5-40;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 41-65; ac

f) Teitl Hir.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio