Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 257
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2025 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.23 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i’r Gweinidog
Addysg Bellach ac Uwch Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u
cael gyda Phrifysgol Caerdydd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd 400 o swyddi yn cael
eu torri? I ofyn i’r Gweinidog
Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Heledd
Fychan (Canol De Cymru):
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod buddiannau
cefnogwyr rygbi Cymru yn cael eu blaenoriaethu mewn unrhyw gytundebau darlledu
yn y dyfodol, yn dilyn adroddiadau diweddar ynghylch cais posibl TNT Sports am
hawliau teledu y Chwe Gwlad? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.22 Atebwyd gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u
cael gyda Phrifysgol Caerdydd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd 400 o swyddi yn cael
eu torri? Atebwyd gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a
Phartneriaeth Gymdeithasol Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i
sicrhau bod buddiannau cefnogwyr rygbi Cymru yn cael eu blaenoriaethu mewn
unrhyw gytundebau darlledu yn y dyfodol, yn dilyn adroddiadau diweddar ynghylch
cais posibl TNT Sports am hawliau teledu y Chwe Gwlad? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.08 Gwnaeth Mike Hedges
ddatganiad am – Diwrnod Atal Strôc. Gwnaeth
Rhys ab Owen ddatganiad am – Teyrnged i Emrys Roberts. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Rheol Sefydlog 12.19 (Dadleuon Agored) NDM8805 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad
y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19 (Dadleuon
Agored)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr
2025. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.19, fel y nodir yn Atodiad
A i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.12 NDM8805 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19
(Dadleuon Agored)', a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2025. 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.19, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y
Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Cyfalaf Trafodion Ariannol NDM8801 Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ‘Cyfalaf Trafodiadau Ariannol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25
Tachwedd 2024. Sylwch:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2025. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.12 NDM8801 Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ‘Cyfalaf Trafodiadau Ariannol’ a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2024. Sylwch: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2025. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth NDM8803 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r Trosolwg
o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr
2025. 2. Yn gresynu at y
canlynol o dan Lywodraeth Cymru: a) bod y gyfradd
ddiweithdra yng Nghymru wedi cynyddu am y seithfed mis yn olynol i 5.6 y cant,
sef y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig; b) bod y gyfradd
gyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng i 70 y cant, sef y gyfradd isaf yn y
Deyrnas Unedig; c) bod gan Gymru gyfradd
anweithgarwch economaidd o 25.6 y cant, sef y gyfradd uchaf ym Mhrydain Fawr; a d) mai Cymru sydd â’r
pecynnau cyflog isaf ym Mhrydain Fawr. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i greu mwy o swyddi yng Nghymru a hybu twf drwy: a) adfer rhyddhad
ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden
i gefnogi busnesau a diogelu swyddi; b) cael gwared ar
ardrethi busnes i fusnesau bach; c) sicrhau ffyniant
broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad; a d) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i dalu costau ei chynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr ar
gyfer busnesau preifat. Trosolwg SYG o'r Farchnad Lafur Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at y ffaith
bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y llafurlu yng Nghymru yn sgil y
pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu. Yn cydnabod bod data
Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd isaf o blith holl
wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr; Yn cytuno mai’r ffordd
orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau hirdymor ar draws amryfal
ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr Arolwg Blynyddol o’r
Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig,
data am swyddi’r gwethlu, a data am nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau. Yn nodi ymhellach fod
cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser llawn yn 2024 yn uwch
na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain
Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber. Yn croesawu’r ffaith y
bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac yn hybu twf drwy
wneud y canlynol: a) parhau i ddarparu
pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £134
miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â chynlluniau rhyddhad
parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd
wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros y blynyddoedd diwethaf; b) sicrhau buddsoddiad
o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru; c) cydweithio â
Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth Cymru wneud
penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a datblygu rhaglen
newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn dilyn cau rhaglenni
gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a d) cydweithio â
Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol. Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod economi
Cymru wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad a model cyllido annheg o dan
Lywodraethau blaenorol a phresennol y DU. Yn galw ar Lywodraeth y
DU i ddychwelyd pwerau i wneud penderfyniadau dros gyllid ôl-Brexit yn ôl i'r
Senedd. Gwelliant 3 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i: a) dilyn argymhelliad yr
OECD ar sefydlu asiantaeth hyd braich i hyrwyddo datblygiad economaidd; b) mabwysiadu targedau
newydd ac effeithiol i yrru datblygiad economaidd cynaliadwy yng Nghymru; c) gweithredu archwiliad
sgiliau cenedlaethol, mapio anghenion economi Cymru ar gyfer y dyfodol a
chyfateb hyn â buddsoddiad mewn strategaeth ar gyfer sgiliau a hyfforddiant; a d) adolygu ac
adnewyddu'r Warant Pobl Ifanc, gan sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad
gwirioneddol at waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwerthfawr ar gyfer datblygu
sgiliau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.38 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8803 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a
gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr 2025. 2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Cymru: a) bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi
cynyddu am y seithfed mis yn olynol i 5.6 y cant, sef y gyfradd uchaf yn y
Deyrnas Unedig; b) bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng
i 70 y cant, sef y gyfradd isaf yn y Deyrnas Unedig; c) bod gan Gymru gyfradd anweithgarwch economaidd o
25.6 y cant, sef y gyfradd uchaf ym Mhrydain Fawr; a d) mai Cymru sydd â’r pecynnau cyflog isaf ym
Mhrydain Fawr. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu mwy o swyddi
yng Nghymru a hybu twf drwy: a) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar
gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu
swyddi; b) cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach; c) sicrhau ffyniant broydd ledled Cymru gyda lefelau
cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad; a d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i dalu costau ei
chynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyfer busnesau preifat. Trosolwg
SYG o'r Farchnad Lafur
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
gresynu at y ffaith bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y llafurlu yng
Nghymru yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu. Yn
cydnabod bod data Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd
isaf o blith holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr; Yn
cytuno mai’r ffordd orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau
hirdymor ar draws amryfal ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei
Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gwethlu, a data am nifer y
bobl sy’n hawlio budd-daliadau. Yn
nodi ymhellach fod cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser
llawn yn 2024 yn uwch na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain
Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber. Yn
croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac
yn hybu twf drwy wneud y canlynol: a)
parhau i ddarparu pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig
sydd werth £134 miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â
chynlluniau rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth
ychwanegol sylweddol sydd wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros
y blynyddoedd diwethaf; b)
sicrhau buddsoddiad o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru; c)
cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth
Cymru wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a
datblygu rhaglen newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn
dilyn cau rhaglenni gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a d)
cydweithio â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Ychwanegu
pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu bod economi Cymru wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad a model cyllido
annheg o dan Lywodraethau blaenorol a phresennol y DU. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i ddychwelyd pwerau i wneud penderfyniadau dros gyllid
ôl-Brexit yn ôl i'r Senedd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ymhellach ar Lywodraeth Cymru i: a)
dilyn argymhelliad yr OECD ar sefydlu asiantaeth hyd braich i hyrwyddo
datblygiad economaidd; b)
mabwysiadu targedau newydd ac effeithiol i yrru datblygiad economaidd
cynaliadwy yng Nghymru; c)
gweithredu archwiliad sgiliau cenedlaethol, mapio anghenion economi Cymru ar
gyfer y dyfodol a chyfateb hyn â buddsoddiad mewn strategaeth ar gyfer sgiliau
a hyfforddiant; a d)
adolygu ac adnewyddu'r Warant Pobl Ifanc, gan sicrhau bod gan bob person ifanc
fynediad gwirioneddol at waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwerthfawr ar gyfer
datblygu sgiliau. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a
gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr 2025. 2. Yn gresynu at y ffaith bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y
llafurlu yng Nghymru yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r
Llafurlu. 3. Yn
cydnabod bod data Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd
isaf o blith holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr; 4. Yn
cytuno mai’r ffordd orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau
hirdymor ar draws amryfal ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei
Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gwethlu, a data am nifer y
bobl sy’n hawlio budd-daliadau. 5. Yn
nodi ymhellach fod cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser
llawn yn 2024 yn uwch na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain
Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber. 6. Yn
croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac
yn hybu twf drwy wneud y canlynol: a)
parhau i ddarparu pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig
sydd werth £134 miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â
chynlluniau rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth
ychwanegol sylweddol sydd wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros
y blynyddoedd diwethaf; b)
sicrhau buddsoddiad o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru; c)
cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth
Cymru wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a
datblygu rhaglen newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn
dilyn cau rhaglenni gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a d)
cydweithio â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig fel y’i
diwygiwyd. Felly, gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol NDM8804 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bydd hi’n
bum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31
Ionawr 2025. 2. Yn gresynu at y
canlynol: a) yn ôl prosiect Cost
Economaidd Brexit, bod y ffurf Brexit caled a ddilynwyd gan Lywodraeth
flaenorol y DU wedi costio hyd at £4 biliwn i economi Cymru; b) bod Brexit wedi
lleihau gwerth allforion Cymru hyd at £1.1 biliwn, a bod cytundebau masnach
ôl-Brexit wedi bod yn arbennig o anffafriol i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu
yng Nghymru; c) y golled bellach i
Gymru o hyd at £1 biliwn mewn cyllid strwythurol a chyllid datblygu gwledig
Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit; d) y cyfleoedd i
weithio, teithio, astudio a byw yn Ewrop y mae pobl yng Nghymru wedi eu colli o
ganlyniad i Brexit, yn enwedig pobl ifanc; e) bod Llywodraeth
bresennol y DU wedi methu â mynd i'r afael â'r heriau a achosir gan Brexit i
Gymru a'r DU yn ehangach, ac wedi nodi ei gwrthwynebiad i ailymuno â'r farchnad
sengl a'r undeb tollau; a f) diddymu Deddf
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cyflwyno deddfwriaeth
newydd i hwyluso aliniad ddeinamig rhwng cyfraith Cymru a'r UE; b) datblygu a mabwysiadu
strategaeth Ewropeaidd gynhwysfawr; ac c) pwyso ar Lywodraeth y
DU i geisio ailymuno â farchnad sengl ac undeb tollau'r UE. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a
gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016. 2. Yn credu y dylid
parchu a gweithredu canlyniad refferenda. 3. Yn nodi ymhellach y
bydd 31 Ionawr 2025 yn nodi pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb
Ewropeaidd yn ffurfiol. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu
ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd y DU ac
yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi
bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU. 2. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed a
achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd. 3. Yn nodi ymhellach fod
Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau gyda phartneriaid
Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi Cynrychiolydd
Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â Gweinidogion ac Uwch
Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd Québec, er
mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a
thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd
pobl ifanc. 4.
Yn edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8804 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bydd hi’n bum mlynedd ers i'r Deyrnas
Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31 Ionawr 2025. 2. Yn gresynu at y canlynol: a) yn ôl prosiect Cost Economaidd Brexit, bod y
ffurf Brexit caled a ddilynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi costio hyd at
£4 biliwn i economi Cymru; b) bod Brexit wedi lleihau gwerth allforion Cymru
hyd at £1.1 biliwn, a bod cytundebau masnach ôl-Brexit wedi bod yn arbennig o
anffafriol i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yng Nghymru; c) y golled bellach i Gymru o hyd at £1 biliwn mewn
cyllid strwythurol a chyllid datblygu gwledig Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit; d) y cyfleoedd i weithio, teithio, astudio a byw yn
Ewrop y mae pobl yng Nghymru wedi eu colli o ganlyniad i Brexit, yn enwedig
pobl ifanc; e) bod Llywodraeth bresennol y DU wedi methu â mynd
i'r afael â'r heriau a achosir gan Brexit i Gymru a'r DU yn ehangach, ac wedi
nodi ei gwrthwynebiad i ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau; a f) diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb
Ewropeaidd (Cymru) 2018. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyflwyno deddfwriaeth newydd i hwyluso aliniad
ddeinamig rhwng cyfraith Cymru a'r UE; b) datblygu a mabwysiadu strategaeth Ewropeaidd
gynhwysfawr; ac c) pwyso ar Lywodraeth y DU i geisio ailymuno â
farchnad sengl ac undeb tollau'r UE.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn
nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y
refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016. 2. Yn
credu y dylid parchu a gweithredu canlyniad refferenda. 3. Yn
nodi ymhellach y bydd 31 Ionawr 2025 yn nodi pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig
adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd
y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y
DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU. 2. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed
a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd. 3. Yn
nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau
gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi
Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â
Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb
Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol
cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei
ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc. 4. Yn
edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd
y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y
DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU. 2. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed
a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd. 3. Yn
nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau
gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi
Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â
Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb
Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol
cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei
ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc. 4. Yn
edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.33 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8802 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) A
fydd clychau Rhymni yn tawelu? Gwarchod asedau cymunedol yn y cymoedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.38 NDM8802 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) A fydd clychau Rhymni
yn tawelu? Gwarchod asedau cymunedol yn y cymoedd. |
PDF 164 KB