Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 236 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiwn 1-5 a 7-9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.20

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.58

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwrthdrawiad rheilffordd ar Lein y Cambrian

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.09

(5 munud)

6.

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024

NDM8697 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2024.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.29

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

7.

Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024

NDM8698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2024.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

NDM8698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

Cafodd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân ei dderbyn

8.

Egwyddorion cyffredinol Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

NDM8695 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Gosodwyd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Mai 2024; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd ar 11 Hydref 2024.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Llythyr oddi wrth y Llywydd i Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol ac ystyriaethau hawliau dynol ym Mil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8695 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Gosodwyd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Mai 2024; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd ar 11 Hydref 2024.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

14

51

Derbyniwyd y cynnig.

9.

Y penderfyniad ariannol ynghylch Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

NDM8696 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8696 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

1

13

51

Derbyniwyd y cynnig.

(30 munud)

10.

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25

NDM8681 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 1 Hydref 2024.

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)     y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)    yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)   cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)  cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)   cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)  manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.39

26

24

1

51

Derbyniwyd y cynnig.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.09

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: