Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 212 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/06/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd

Am 13.30, cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Seilwaith (Cymru) 2024wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 3 Mehefin 2024.

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.25

 

(5 munud)

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Dechreuodd yr eitem am 14.47

NNDM8596 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8595 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 4 Mehefin 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

3.

Dadl: Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

NNDM8595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) y niwed a'r dioddefaint a achoswyd i filoedd o bobl yn sgil y sgandal gwaethaf o ran triniaethau yn hanes y GIG;

b) ymgyrchu diflino a gwaith caled pawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef, i geisio'r gwir; ac

c) ymddiheuriad Llywodraeth y DU am y degawdau hir o fethiant moesol wrth galon ein bywyd cenedlaethol.

2. Yn croesawu adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a gyhoeddwyd ar 20 Mai 2024 a'i argymhellion.

3. Yn croesawu gwaith y pedair gwlad i sefydlu Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.

4. Yn nodi y bydd taliadau iawndal pellach yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal.

Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru yn derbyn eu hail daliad iawndal interim o fewn 90 diwrnod i gyhoeddi adroddiad Langstaff.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu holl argymhellion adroddiad Langstaff sy'n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn llawn ac yn ddi-oed.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i estyn allan yn rhagweithiol at yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru gyda'r cynnig o gefnogaeth a chwnsela perthnasol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.47

NNDM8595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) y niwed a'r dioddefaint a achoswyd i filoedd o bobl yn sgil y sgandal gwaethaf o ran triniaethau yn hanes y GIG;

b) ymgyrchu diflino a gwaith caled pawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef, i geisio'r gwir; ac

c) ymddiheuriad Llywodraeth y DU am y degawdau hir o fethiant moesol wrth galon ein bywyd cenedlaethol.

2. Yn croesawu adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a gyhoeddwyd ar 20 Mai 2024 a'i argymhellion.

3. Yn croesawu gwaith y pedair gwlad i sefydlu Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.

4. Yn nodi y bydd taliadau iawndal pellach yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal.

Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y gwelliannau a’r cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.54

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – ailddatgan ein gwerthoedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.37

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gwasanaethau Plant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.11

 

(30 munud)

7.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Trawsnewid y rheilffyrdd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Metro yn Ne Cymru a’r rhaglen i ddiweddaru’r fflyd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

(5 munud)

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Dechreuodd yr eitem am 18.19

NNDM8598 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8597 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 4 Mehefin 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl: Y Diwydiant Dur yng Nghymru

NNDM8597 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gan gynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru o fewn proses bontio sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru.

2. Yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru ac i'r llwybr at sero-net.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw gefnogaeth ariannol i Tata Steel ers 2019.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu grant £500 miliwn Llywodraeth y DU i Tata Steel i gefnogi cadw swyddi gweithwyr dur ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn ar gyfer ailhyfforddi a sgiliau.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Tata wedi gwrthod cynllun aml-undeb a fyddai wedi diogelu swyddi ac wedi cadw un o'r ffwrneisi chwyth ar agor yng ngwaith dur Port Talbot.

Gwelliant 4 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch sut y byddai'r cynllun gwerth £3 biliwn gan Lafur y DU ar gyfer dur yn amddiffyn swyddi ac yn cefnogi datgarboneiddio yng ngwaith dur Port Talbot.

Gwelliant 5 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i gymryd y camau angenrheidiol i ddod â gwaith dur Port Talbot i berchnogaeth gyhoeddus.

Gwelliant 6 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn absenoldeb cynllun gan Lywodraeth y DU, i archwilio opsiynau deddfwriaethol ar gyfer prynu'r ffwrneisi chwyth yn orfodol ym Mhort Talbot, ynghyd â'r potensial o greu cwmni dur cydweithredol Cymreig.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.20

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM8597 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gan gynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru o fewn proses bontio sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru.

2. Yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru ac i'r llwybr at sero-net.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw gefnogaeth ariannol i Tata Steel ers 2019.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu grant £500 miliwn Llywodraeth y DU i Tata Steel i gefnogi cadw swyddi gweithwyr dur ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn ar gyfer ailhyfforddi a sgiliau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Tata wedi gwrthod cynllun aml-undeb a fyddai wedi diogelu swyddi ac wedi cadw un o'r ffwrneisi chwyth ar agor yng ngwaith dur Port Talbot.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

1

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch sut y byddai'r cynllun gwerth £3 biliwn gan Lafur y DU ar gyfer dur yn amddiffyn swyddi ac yn cefnogi datgarboneiddio yng ngwaith dur Port Talbot.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i gymryd y camau angenrheidiol i ddod â gwaith dur Port Talbot i berchnogaeth gyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn absenoldeb cynllun gan Lywodraeth y DU, i archwilio opsiynau deddfwriaethol ar gyfer prynu'r ffwrneisi chwyth yn orfodol ym Mhort Talbot, ynghyd â'r potensial o greu cwmni dur cydweithredol Cymreig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

40

50

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NNDM8597 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gan gynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru o fewn proses bontio sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru.

2. Yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru ac i'r llwybr at sero-net.

3. Yn gresynu bod Tata wedi gwrthod cynllun aml-undeb a fyddai wedi diogelu swyddi ac wedi cadw un o'r ffwrneisi chwyth ar agor yng ngwaith dur Port Talbot.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

 

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.17

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: