Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 210 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Enwebiadau ar gyfer cadeirydd y pwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y pwyllgor a ganlyn yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur)

Enwebwyd Mike Hedges gan Jack Sargeant. Eiliodd Hefin David yr enwebiad.

Enwebwyd Alun Davies gan Jenny Rathbone. Eiliodd Mark Drakeford yr enwebiad.

Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.

Canlyniadau

Am 17.26, cyhoeddodd y Llywydd ganlyniad y bleidlais gyfrinachol ar gyfer ethol cadeirydd pwyllgor:

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur):

 

 

Alun Davies

 

Mike Hedges

 

Ymatal

 

Difethwyd

 

Cyfanswm

 

 

26

 

27

 

1

 

1

 

55

Datganodd y Llywydd bod Mike Hedges wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.32

 

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

 

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

 

(0 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol - Gohiriwyd tan 4 Mehefin

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan 4 Mehefin.

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

 

(15 munud)

7.

Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024

NDM8586 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2024.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.11

NDM8586 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2024.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.