Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 145
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 14/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Am 13.30, cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog
26.75, bod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 wedi cael Cydsyniad
Brenhinol ar 14 Mehefin 2023. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
cwestiynau 1-10 a 12. Ni ofynnwyd cwestiwn 11. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb
i'r cyhoeddiad bod cwmni parseli Tuffnells wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella
canlyniadau economaidd yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi ystadegau ONS mis Mehefin
sy'n dangos patrwm o ddirywiad yng nghyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch
economaidd Cymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.59 Atebwyd gan Weinidog
yr Economi Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod cwmni
parseli Tuffnells wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): Beth
mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau economaidd yng Nghymru,
yn dilyn cyhoeddi ystadegau ONS mis Mehefin sy'n dangos patrwm o ddirywiad yng
nghyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd Cymru? Am 15.17, cododd Darren Millar Bwynt o Drefn mewn
cysylltiad â honiadau y gallai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
drwy amryfusedd, fod wedi camarwain y Senedd yn ystod ei chyfraniad i ddadl ar
arferion cyfrifo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 7 Mehefin.
Gwahoddodd y Llywydd y Gweinidog i ymateb i’r pwyntiau a godwyd. Ymatebodd y Gweinidog
a cheisio egluro ei sylwadau blaenorol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.20 Gwnaeth
Jack Sargeant ddatganiad am - A Grand Week in Wales (19-25 Mehefin). Digwyddiad
i helpu elusennau allweddol sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein
cymunedau ledled Cymru ac i ddod â phobl at ei gilydd trwy ddigwyddiadau codi
arian, i frwydro yn erbyn unigedd a lledaenu positifrwydd mewn cyfnod pan rydym
ei angen fwyaf. Gwnaeth
Siân Gwenllian ddatganiad am – Y Dywysoges Gwenllian a Gŵyl
Gwenllian (10 Mehefin), penwythnos o ddigwyddiadau i ddathlu menywod y
Carneddau. Gwnaeth
James Evans ddatganiad am - Wythnos Iechyd Dynion (12-18 Mehefin). Mae'r
ffocws eleni ar agor sgyrsiau am iechyd, darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael
yn lleol a lleihau'r ystadegau iechyd gwael ar gyfer dynion yn gyffredinol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ymgyrch Warm this Winter NDM8275 Hefin David (Caerffili) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Cymru a
gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr argyfwng costau
byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod ymgyrch Warm
This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac wedi'u
hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd
iddynt. 2. Yn nodi bod
ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai
mwyaf bregus. 3. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus y gaeaf
diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a
chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod
angen gwneud mwy. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr gwirioneddol
allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i fynd i'r
afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn
effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni, a'r angen
i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn gynnes y
gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cefnogwyr Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM8275 Hefin David (Caerffili) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau
lluosog, sef yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd
a natur, a bod ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn
yn gysylltiedig ac wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd
iddynt. 2.
Yn nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth
brys i'r rhai mwyaf bregus. 3. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus
y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a
chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod
angen gwneud mwy. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr
gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i
fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn
effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni,
a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn
gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cefnogwyr Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch NDM8292 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg
Uwch' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2023. Sylwch:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.34 NDM8292 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Cymorth Iechyd
Meddwl mewn Addysg Uwch' a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2023. Sylwch: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghenion dysgu ychwanegol NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod nifer y plant a
phobl ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng
ers cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd; b) bod oedi a heriau
wrth gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at
gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac c) bod ymchwil
gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o
arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar
ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cynnal adolygiad
brys o weithredu diwygiadau ADY; b) cymryd camau brys i
sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at
gymorth yn gynt; ac c) darparu cymorth
ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag
ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 'Methiant
i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le: Yn nodi bod Estyn wedi canfod bod
cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael
eu croesawu'n gyffredinol. ymchwil yn canfod bod
y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i
bob dysgwr. cyfnod gweithredu’r
diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth
gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar
gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol. Diwygio
anghenion dysgu ychwanegol - Estyn Ymchwil
gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1 Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Mewnosoder ar ddiwedd
is-bwynt 1(b): gyda phrinder penodol
o ddarpariaeth Gymraeg. Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon) Mewnosod fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: cymryd
camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch
argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl
adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod nifer y plant a phobl
ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng ers
cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd; b) bod oedi a heriau wrth
gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at gymorth
ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac c) bod ymchwil gan
Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o
arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar
ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cynnal adolygiad brys o
weithredu diwygiadau ADY; b) cymryd camau brys i sicrhau
bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth
yn gynt; ac c) darparu cymorth ariannol
ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn
gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 'Methiant
i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r
diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol. ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn
hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr. cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn
sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu
wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr
unigol. Diwygio
anghenion dysgu ychwanegol - Estyn Ymchwil
gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon) Mewnosod fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr
cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a
sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod: a) Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r
diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol. b) ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY
yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr. c) cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er
mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid
gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion
dysgwyr unigol. Diwygio
anghenion dysgu ychwanegol - Estyn Ymchwil
gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cynnal adolygiad brys o
weithredu diwygiadau ADY; b) cymryd camau brys i sicrhau
bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth
yn gynt; ac c) darparu cymorth ariannol
ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn
gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 'Methiant
i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru d) cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan
ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith
ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8289 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Anghydraddoldebau
canser yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.29 NDM8289 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Anghydraddoldebau
canser yng Nghymru |