NDM8294 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghenion dysgu ychwanegol
NDM8294 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghenion dysgu ychwanegol
NDM8294 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod nifer y plant a
phobl ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng
ers cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd;
b) bod oedi a heriau
wrth gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at
gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac
c) bod ymchwil
gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o
arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar
ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad
brys o weithredu diwygiadau ADY;
b) cymryd camau brys i
sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at
gymorth yn gynt; ac
c) darparu cymorth
ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag
ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
'Methiant
i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi bod
Estyn wedi canfod bod
cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael
eu croesawu'n gyffredinol.
ymchwil yn canfod bod
y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i
bob dysgwr.
cyfnod gweithredu’r
diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth
gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar
gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.
Diwygio
anghenion dysgu ychwanegol - Estyn
Ymchwil
gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Mewnosoder ar ddiwedd
is-bwynt 1(b):
gyda phrinder penodol
o ddarpariaeth Gymraeg.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Mewnosod fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cymryd
camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch
argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl
adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023