Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 66(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/04/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
cwestiynau 1-7 a 9-10. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu
grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I’w
ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol Gareth Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am eithrio staff ategol cartrefi gofal o
daliadau bonws y gweithwyr cartrefi gofal a'r gweithwyr gofal cartref? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.05 Atebwyd
gan y Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Gareth
Davies: A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am eithrio staff ategol cartrefi gofal o daliadau
bonws y gweithwyr cartrefi gofal a'r gweithwyr gofal cartref? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 Gwnaeth
Delyth Jewell ddatganiad am - Wythnos
Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth NDM7990 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn dathlu cryfder
Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid. 2. Yn gresynu at effaith
ddinistriol cyfyngiadau COVID ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. 3. Yn credu y bydd
newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r system ardrethu annomestig yn
tanseilio llawer o fusnesau llety gwyliau. 4. Yn nodi data
Cynghrair Twristiaeth Cymru sy'n dangos na fydd mwyafrif helaeth o fusnesau'n
gallu bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys fel busnes llety gwyliau. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) roi'r gorau i
gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru; b) cydnabod bod y rhan
fwyaf o'r ymatebion i'w hymgynghoriad yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i
ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau; c) rhoi'r gorau i
gynlluniau i ymestyn nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod eiddo er mwyn
bodloni'r gofyniad ardrethu annomestig. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod cryfder twristiaeth
Cymru, sydd o’r radd flaenaf, ac yn croesawu’r cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant
twristiaeth a gweithredwyr gan Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig COVID. 2. Yn cydnabod diffiniad
Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o dwristiaeth gynaliadwy: “Twristiaeth
sy’n ystyried yn llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn
awr ac yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd
a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr”. 3. Yn cydnabod bod ardollau
twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, a bod yr incwm ohonynt yn cael ei ddefnyddio
er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau, sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth
yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus. 4. Yn croesawu’r ymrwymiad
i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi
ardoll dwristiaeth os byddant yn dewis gwneud hynny. 5. Yn nodi’r bwriad i gynnal
ymgynghoriad sylweddol yn yr hydref yn 2022 fel rhan o broses ofalus o ddatblygu
cynigion ar gyfer ardoll, a fydd yn cynnwys cymunedau, busnesau a gweithredwyr,
ac yn nodi ymhellach y bydd y broses o drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn
destun craffu manwl a chymeradwyaeth gan y Senedd. 6. Yn croesawu penderfyniad
y Senedd ar 22 Mawrth i gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor
ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad
ehangach i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu
llawer o gymunedau yng Nghymru ac i fynd i’r afael â’r argyfwng tai. 7. Yn croesawu’r ymrwymiad
i weithredu ar yr ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal hyd yma i sicrhau bod trethi
lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig ac yn
nodi bod ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod
eiddo ar gyfer llety hunanarlwyo, a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r
ymrwymiad hwn, wedi dod i ben ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael
eu dadansoddi. Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a
Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7990 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn dathlu cryfder Cymru fel
cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid. 2. Yn gresynu at effaith
ddinistriol cyfyngiadau COVID ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. 3. Yn credu y bydd newidiadau
arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r system ardrethu annomestig yn tanseilio
llawer o fusnesau llety gwyliau. 4. Yn nodi data Cynghrair
Twristiaeth Cymru sy'n dangos na fydd mwyafrif helaeth o fusnesau'n gallu
bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys fel busnes llety gwyliau. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) roi'r gorau i gynigion
niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru; b) cydnabod bod y rhan fwyaf
o'r ymatebion i'w hymgynghoriad yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i
ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau; c) rhoi'r gorau i gynlluniau i
ymestyn nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod eiddo er mwyn bodloni'r gofyniad
ardrethu annomestig.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod cryfder twristiaeth Cymru, sydd o’r
radd flaenaf, ac yn croesawu’r cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant
twristiaeth a gweithredwyr gan Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig
COVID. 2. Yn cydnabod diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y
Cenhedloedd Unedig o dwristiaeth gynaliadwy: “Twristiaeth sy’n ystyried yn
llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn awr ac yn y
dyfodol, gan ddiwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r
cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr”. 3. Yn cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gyffredin
ar draws y byd, a bod yr incwm ohonynt yn cael ei ddefnyddio er lles cymunedau
lleol, twristiaid a busnesau, sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth yn
gynaliadwy ac yn llwyddiannus. 4. Yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno ardollau
twristiaeth lleol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth
os byddant yn dewis gwneud hynny. 5. Yn nodi’r bwriad i gynnal ymgynghoriad sylweddol yn
yr hydref yn 2022 fel rhan o broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer
ardoll, a fydd yn cynnwys cymunedau, busnesau a gweithredwyr, ac yn nodi
ymhellach y bydd y broses o drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn destun
craffu manwl a chymeradwyaeth gan y Senedd. 6. Yn croesawu penderfyniad y Senedd ar 22 Mawrth i
gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a
Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad
ehangach i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n
wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru ac i fynd i’r afael â’r argyfwng
tai. 7. Yn croesawu’r ymrwymiad i weithredu ar yr
ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal hyd yma i sicrhau bod trethi lleol yn
gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig ac yn nodi bod
ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod eiddo
ar gyfer llety hunanarlwyo, a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r
ymrwymiad hwn, wedi dod i ben ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael
eu dadansoddi. Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir
yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn
cydnabod cryfder twristiaeth Cymru, sydd o’r radd flaenaf, ac yn croesawu’r
cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant twristiaeth a gweithredwyr gan
Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig COVID. 2. Yn
cydnabod diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o
dwristiaeth gynaliadwy: “Twristiaeth sy’n ystyried yn llawn ei heffeithiau
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan ddiwallu
anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu
ymwelwyr”. 3. Yn
cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, a bod yr incwm
ohonynt yn cael ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau,
sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus. 4. Yn
croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a fydd yn galluogi
awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth os byddant yn dewis gwneud
hynny. 5. Yn
nodi’r bwriad i gynnal ymgynghoriad sylweddol yn yr hydref yn 2022 fel rhan o
broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, a fydd yn cynnwys
cymunedau, busnesau a gweithredwyr, ac yn nodi ymhellach y bydd y broses o
drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn destun craffu manwl a chymeradwyaeth
gan y Senedd. 6. Yn
croesawu penderfyniad y Senedd ar 22 Mawrth i gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth
Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru)
2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â phroblemau
ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru ac
i fynd i’r afael â’r argyfwng tai. 7. Yn
croesawu’r ymrwymiad i weithredu ar yr ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal
hyd yma i sicrhau bod trethi lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go
iawn ac eiddo domestig ac yn nodi bod ymgynghoriad technegol ar reoliadau
drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod eiddo ar gyfer llety hunanarlwyo, a
gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwn, wedi dod i ben
ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael eu dadansoddi. Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau
Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Yr argyfwng costau byw a thai NDM7989 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod yr argyfwng
costau byw sy'n effeithio ar aelwydydd ledled Cymru yn cynyddu'r risg o
ddigartrefedd. 2. Yn nodi bod
gwerthoedd rhentu cyfartalog yng Nghymru wedi cynyddu i £726 y mis ym mis
Mawrth 2022, i fyny 7.2 y cant o'i gymharu â mis Mawrth 2021 3. Yn nodi, er bod y
lwfans tai lleol wedi'i gynllunio i gwmpasu'r 30 y cant isaf o aelwydydd yng
Nghymru, mai dim ond 3.8 y cant o aelwydydd sy'n cael eu cwmpasu ganddo mewn
gwirionedd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i ddiwygio'r lwfans tai lleol i sicrhau ei fod yn gweithio i
Gymru. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried argymhellion map ffordd End Youth Homelessness
Cymru. A
Roadmap to Ending Youth Homelessness in Wales - End Youth
Homelessness Cymru (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod bod mwy o gartrefi
gwag nag ail gartrefi yng Nghymru tan yn ddiweddar. Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod y rôl bwysig
y mae landlordiaid yn ei chwarae wrth ddarparu llety yng Nghymru. Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 5 a rhoi yn
ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a. ailgyflwyno hawl i brynu
ddiwygiedig; b. datblygu cynllun i Gymru
gyfan i ddarparu cymhellion i sicrhau bod mwy o gartrefi gwag y mae angen eu hadnewyddu
yn cael eu defnyddio unwaith eto; c. ymateb i argymhellion map ffordd End Youth
Homelessness Cymru; d. diystyru cyflwyno rheolaethau
rhent yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7989 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod yr argyfwng
costau byw sy'n effeithio ar aelwydydd ledled Cymru yn cynyddu'r risg o
ddigartrefedd. 2. Yn nodi bod gwerthoedd
rhentu cyfartalog yng Nghymru wedi cynyddu i £726 y mis ym mis Mawrth 2022, i
fyny 7.2 y cant o'i gymharu â mis Mawrth 2021 3. Yn nodi, er bod y lwfans tai
lleol wedi'i gynllunio i gwmpasu'r 30 y cant isaf o aelwydydd yng Nghymru, mai
dim ond 3.8 y cant o aelwydydd sy'n cael eu cwmpasu ganddo mewn gwirionedd. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i
ddiwygio'r lwfans tai lleol i sicrhau ei fod yn gweithio i Gymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried argymhellion map ffordd End Youth Homelessness Cymru. A
Roadmap to Ending Youth Homelessness in Wales - End Youth
Homelessness Cymru (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.00 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.04 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7988 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Does unman yn debyg i gartref:
tai amlfeddiannaeth ac ymrymuso
cymunedol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.08 NDM7988 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De
Cymru) Does unman yn debyg i gartref: tai amlfeddiannaeth ac ymrymuso cymunedol |