Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 23(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.31 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 4
a 5 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.22 Gofynnwyd cwestiynau 1-2 a 4-8. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd Condemniodd y
Llywydd y protestiadau a gynhaliwyd ar ystâd y Senedd y noson flaenorol.
Dywedodd wrth yr Aelodau bod yr awdurdodau perthnasol wrthi’n adolygu’r digwyddiadau,
ac y rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau maes o law. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth
Cymru yn bwriadu ei wneud i liniaru effeithiau penderfyniad Llywodraeth y DU i
ddileu y cynnydd mewn credyd cynhwysol o heddiw ymlaen? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.03 Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru): Beth
mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i liniaru effeithiau penderfyniad
Llywodraeth y DU i ddileu y cynnydd mewn credyd cynhwysol o heddiw ymlaen? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.19 Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am: Ymddeoliad Joy Aman
Davies fel arweinydd Côr Orffews Treforys ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth gyda’r
Côr. Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am: Cofio Magi Dodd,
cynhyrchydd a chyflwynydd Radio Cymru. Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am: Mis Ymwybyddiaeth
Canser y Fron. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu dadl ar eitemau 5–8 Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM7802 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol
Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol
Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr
wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7798, NDM7799, NDM7800 ac NDM7801 gael
ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 6 Hydref 2021. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Derbyniwyd cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5–8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog NDM7798 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn
sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif
Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer
swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM7798 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn
sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif
Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer
swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T ac 17.3 i ethol aelodau a Chadeirydd i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog NDM7799 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd
Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn
perthynas â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: a) John Griffiths (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur
Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Russell
George (Ceidwadwyr Cymreig) a Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a b) David Rees (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu
ar Waith y Prif Weinidog. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM7799 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd
Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn
perthynas â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: a) John Griffiths (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur
Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Russell
George (Ceidwadwyr Cymreig) a Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelodau o’r
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a b) David Rees (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd NDM7781 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1.
Yn sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 2.
Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw: a)
ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor ar Ddiwygio
Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd fel y nodir yn ei adroddiad Diwygio'r
Senedd: Y camau nesaf a osodwyd gerbron
y Senedd ar 10 Medi 2020; b)
erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar Fil
Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd. 3.
Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar
ei adroddiad terfynol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM7801 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1. Yn sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r
Senedd. 2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw: a) ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol gan y
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd fel y nodir yn ei
adroddiad Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf a osodwyd gerbron
y Senedd ar 10 Medi 2020; b) erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion ar gyfer
cyfarwyddiadau polisi ar Fil Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd. 3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl
yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.2T, 17.3, 33.6 a 33.8 i ethol aelodau a Chadeirydd i'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, i atal y Rheolau Sefydlog dros dro mewn cysylltiad â'r pwyllgor hwnnw, a chytuno ar drefniadau pleidleisio yn y pwyllgor NDM7800 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd
Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn
perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: a) Jayne Bryant (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr
Cymreig), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol)
yn aelodau o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd; b) Elin Jones (Llywydd) fel aelod o'r Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd; c) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y
Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 3. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn penderfynu na
fydd Rheolau Sefydlog 17.37 i 17.39 yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 4. Yn penderfynu, lle mae angen pleidlais i waredu
busnes, y bydd pleidleisio yn y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn
gweithredu fel a ganlyn: a) dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff y cadeirydd
bleidleisio; b) ni chaiff y Llywydd bleidleisio; c) caiff pob aelod arall o'r Pwyllgor bleidleisio ac, os
ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol, mae pob aelod yn cael un bleidlais ar
gyfer pob aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn iddo (gan gynnwys ei
hun a'r Llywydd a'r Dirprwy os yw’n aelodau o'i grŵp gwleidyddol); d) rhaid pasio penderfyniad i gytuno ar argymhellion i'r
Senedd ar bleidlais lle mae'r aelodau sy'n pleidleisio o'i blaid yn cario o
leiaf 40 pleidlais. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM7800 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd
Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn
perthynas â’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: a) Jayne Bryant (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr
Cymreig), Sian Gwenllian (Plaid Cymru), a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol)
yn aelodau o'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd; b) Elin Jones (Llywydd) fel aelod o'r Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd; c) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y
Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 3. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn penderfynu na
fydd Rheolau Sefydlog 17.37 i 17.39 yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. 4. Yn penderfynu, lle mae angen pleidlais i waredu
busnes, y bydd pleidleisio yn y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn
gweithredu fel a ganlyn: a) dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff y cadeirydd
bleidleisio; b) ni chaiff y Llywydd bleidleisio; c) caiff pob aelod arall o'r Pwyllgor bleidleisio ac, os
ydynt yn perthyn i grŵp gwleidyddol, mae pob aelod yn
cael un bleidlais ar gyfer pob aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn iddo (gan gynnwys ei hun a'r Llywydd a'r Dirprwy
os yw’n aelodau o'i grŵp
gwleidyddol); d) rhaid pasio penderfyniad i gytuno ar argymhellion i'r
Senedd ar bleidlais lle mae'r aelodau sy'n pleidleisio o'i blaid yn cario o
leiaf 40 pleidlais. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â
Rheol Sefydlog 12.18, am 15.25 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd Meddwl NDM7793 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi mai dydd
Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd. 2. Yn cydnabod effaith
COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl. 3. Yn gresynu at y
ffaith bod nifer y bobl ifanc sy'n dod i'r ysbyty gyda phroblemau
hunan-niweidio wedi codi 39 y cant ers 2007. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd y
flwyddyn nesaf: a) camau i weithredu
argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed
Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn
ddiweddarach; b) adroddiadau
blynyddol a phennu targedau ar gyfer amseroedd aros i gael triniaeth
iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau; c) cyflwyno
canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol; d) cynllun gweithlu
iechyd meddwl clir. 5. Yn galw ymhellach
ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd. Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn
ddiweddarach Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu’r cyfan ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi’r ymrwymiad i
adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer
hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru. Yn croesawu ymrwymiad
parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol: a) gweithredu
argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd,
Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach; b) cryfhau a chyhoeddi
data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru; c) cyflwyno cymorth
argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol; d) cynllun gweithlu
iechyd meddwl clir. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer
Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: 'cyflwyno rhwydwaith o
ganolfannau iechyd meddwl a lles ieuenctid ataliol'. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.37 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7793
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd. 2.
Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau
iechyd meddwl. 3.
Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ifanc sy'n dod i'r ysbyty gyda
phroblemau hunan-niweidio wedi codi 39 y cant ers 2007. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei strategaeth iechyd meddwl 10
mlynedd newydd y flwyddyn nesaf: a)
camau i weithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg y Pumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy
flynedd yn ddiweddarach; b)
adroddiadau blynyddol a phennu targedau ar gyfer amseroedd aros i gael
triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau; c)
cyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol; d)
cynllun gweithlu iechyd meddwl clir. 5.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd. Cadernid
Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu’r
cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau
bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru. Yn
croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol: a)
gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y
Bumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach; b)
cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad
ledled Cymru; c)
cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol; d)
cynllun gweithlu iechyd meddwl clir. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU
yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng
Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel wedi’i ddiwygio: NDM7793
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd. 2.
Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau
iechyd meddwl. 3.
Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth
gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru. 4.
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol: a)
gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y
Bumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach; b)
cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad
ledled Cymru; c)
cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol; d)
cynllun gweithlu iechyd meddwl clir. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y
DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng
Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd NDM7791Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi
ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob
gweithiwr gofal iechyd. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru, yn ei thrafodaethau presennol â'r undebau gofal iechyd, i
ymrwymo i godiad cyflog mewn termau real uwchlaw'r hyn a gynigiwyd gan gorff
adolygu cyflogau'r GIG. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod
ymroddiad ac aberth holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng
Nghymru. 2. Yn croesawu'r
lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i bob rhanbarth a gwlad
yn y DU, gan gynnwys Cymru, mewn cyllidebau olynol ac yn y frwydr yn erbyn
COVID-19. 3. Yn nodi
argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol y GIG yng Nghymru a
phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyfarnu codiad cyflog o 3 y cant i staff y
GIG. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys ag amodau gwaith fel cymorth iechyd
meddwl, cadw staff, uwchsgilio a llenwi bylchau staffio o fewn y GIG, er mwyn
sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru gan gynnwys ynghylch
cyflogau'r GIG. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.31 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7791
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog
teg i bob gweithiwr gofal iechyd. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn ei thrafodaethau presennol â'r undebau gofal
iechyd, i ymrwymo i godiad cyflog mewn termau real uwchlaw'r hyn a gynigiwyd
gan gorff adolygu cyflogau'r GIG.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod ymroddiad ac aberth holl staff y gweithlu iechyd a gofal
cymdeithasol yng Nghymru. 2.
Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i bob
rhanbarth a gwlad yn y DU, gan gynnwys Cymru, mewn cyllidebau olynol ac yn y
frwydr yn erbyn COVID-19. 3.
Yn nodi argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol y GIG yng Nghymru a
phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyfarnu codiad cyflog o 3 y cant i staff y
GIG. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys ag amodau gwaith fel
cymorth iechyd meddwl, cadw staff, uwchsgilio a llenwi bylchau staffio o fewn y
GIG, er mwyn sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru gan
gynnwys ynghylch cyflogau'r GIG. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel wedi’i ddiwygio: NDM7791
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog
teg i bob gweithiwr gofal iechyd. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu ag undebau llafur GIG Cymru
gan gynnwys ynghylch cyflogau'r GIG.
Derbyniwyd y cynnig fel wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Pwysau Gaeaf y GIG NDM7792 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi cynllun gaeaf i fynd i'r afael â'r pwysau y mae'r GIG yn ei
wynebu yn ystod misoedd y gaeaf. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei
le: Cynnig bod y Senedd: Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi
cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn yr wythnos sy'n
dechrau ar 18 Hydref 2021. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.04 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7792
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig
bod y Senedd: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gaeaf i fynd i'r afael â'r pwysau y
mae'r GIG yn ei wynebu yn ystod misoedd y gaeaf.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a
gofal cymdeithasol yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Hydref 2021. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel wedi’i ddiwygio: NDM7792
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a
gofal cymdeithasol yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Hydref 2021.
Derbyniwyd y cynnig fel wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.30 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i
ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd
yr eitem am 17.34 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7790 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Addas ar gyfer yr 21ain Ganrif: sut y gall
Cymru gwella'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i helpu pobl i oresgyn
dibyniaeth ar sylweddau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 NDM7790 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Addas
ar gyfer yr 21ain Ganrif: sut y gall Cymru gwella'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi
i helpu pobl i oresgyn dibyniaeth ar sylweddau. |