Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Amseriad disgwyliedig: 21(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.31 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl
a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog
y Gymraeg ac Addysg Pa gamau pellach y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd mewn
ymateb i darfu difrifol ar addysg yn gynnar yn y tymor ysgol newydd yn sgil
cynnydd yn yr achosion o COVID-19? Gofyn i’r
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Joyce Watson Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Beth mae
Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â diogelwch menywod mewn mannau
cyhoeddus? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.10 Gofyn
i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sian
Gwenllian (Arfon):
Pa gamau pellach y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd mewn ymateb i darfu difrifol
ar addysg yn gynnar yn y tymor ysgol newydd yn sgil cynnydd yn yr achosion o
COVID-19? Gofyn
i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth
Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.32 Gwnaeth
Rhys ab Owen ddatganiad am: dadorchuddio cerflun o Betty Campbell – pennaeth du
cyntaf ysgol gynradd yng Nghymru, a hyrwyddodd ddiwylliant amlddiwylliannol ei
chenedl drwy gydol ei hoes Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad am: 75 Mlwyddiant Clwb Llenyddol Casnewydd a Gwent. Gwnaeth
Russell George ddatganiad am: Sefydliad Prydeinig y Galon a’i ymgyrch dros
Anghydraddoldeb Rhywiol a Chlefyd y Galon. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.39 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia NDM7773 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) effaith sylweddol
pandemig COVID-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru a phobl y mae
dementia yn effeithio arnynt; b) pwysigrwydd
gofalwyr di-dâl o ran sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru
yn gallu gweithredu yn ystod y pandemig. 2. Yn nodi ymhellach
yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia i ganiatáu i ofalwyr di-dâl, y
systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff a darparwyr gwasanaethau eraill
gynllunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gywir, fel y nodir
yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddementia. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) ariannu ymchwil i
ddatblygu dulliau diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy'n cael diagnosis o
ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis; b) ariannu cymorth
ôl-ddiagnostig ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru; c) sefydlu arsyllfa
ddata dementia genedlaethol i sicrhau cywirdeb mewn data dementia a chasglu,
dadansoddi a lledaenu data ar ddementia i bob darparwr gwasanaeth sy'n dymuno
cael gafael ar ddata i helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia ledled
Cymru. Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer
Dementia 2018-22 Cyd-gyflwynwyr Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 15.51 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7773 Luke
Fletcher (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn nodi: a) effaith sylweddol
pandemig COVID-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru a phobl y mae
dementia yn effeithio arnynt; b) pwysigrwydd
gofalwyr di-dâl o ran sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru
yn gallu gweithredu yn ystod y pandemig. 2. Yn nodi ymhellach
yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia i ganiatáu i ofalwyr di-dâl, y
systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff a darparwyr gwasanaethau eraill
gynllunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gywir, fel y nodir
yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddementia. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) ariannu
ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy'n cael
diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael
diagnosis; b) ariannu
cymorth ôl-ddiagnostig ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru; c) sefydlu
arsyllfa ddata dementia genedlaethol i sicrhau cywirdeb mewn data dementia a
chasglu, dadansoddi a lledaenu data ar ddementia i bob darparwr gwasanaeth sy'n
dymuno cael gafael ar ddata i helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia
ledled Cymru. Cynllun
Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-22 Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pasys COVID NDM7783 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno pleidlais ystyrlon ar gyflwyno pasys COVID cyn
iddynt ddod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru. 2. Yn credu, pe bai
Llywodraeth Cymru yn penderfynu bod angen cyflwyno pasbortau COVID, fod yn
rhaid dod â'r gofyniad hwn gerbron Senedd Cymru am bleidlais sylweddol
cyn iddynt gael eu cyflwyno. 3. Yn cydnabod bod
ailagor cymdeithas wedi digwydd o ganlyniad i'r rhaglen frechu lwyddiannus
ledled y DU. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau erbyn 28 Medi ac yn cynnal dadl a
phleidlais ar y defnydd gorfodol o’r pàs COVID mewn digwyddiadau a lleoliadau
risg uchel, ar 5 Hydref. 2. Yn cydnabod bod
cymdeithas wedi gallu ailagor diolch i aberth a gwaith caled dinasyddion Cymru
yn ogystal â’r rhaglen frechu lwyddiannus. Cofnodion: Ni wnaed y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth NDM7784 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu effaith
economaidd gadarnhaol dileu tollau croesi Afon Hafren. 2. Yn gresynu at gynigion
Llywodraeth Cymru a allai arwain at daliadau i fodurwyr sy'n defnyddio'r M4, yr
A470, yr A55 a chefnffyrdd eraill. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) ddiystyru cyflwyno
tollau a phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru; b) hyrwyddo
trafnidiaeth fwy gwyrdd drwy gymryd camau fel: i) cynyddu'r
ddarpariaeth o bwyntiau gwefru trydan ar rwydwaith ffyrdd Cymru; ii) hyrwyddo teithio
llesol ymhellach; a iii) ymestyn tocynnau
bws am ddim i bobl rhwng 16 a 25 oed. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Dileu’r
cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd yn: 1.
Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol
am 17 y cant o allyriadau Cymru. 2.
Galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau nifer y teithiau
a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o deithio i drafnidiaeth
gyhoeddus a theithio llesol; b)
dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddatgarboneiddio
cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu, er mwyn i bobl
allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.] Gwelliant
2 Sian Gwenllian (Arfon) Dileu
pwyntiau 1 a 2. Gwelliant
3 Sian Gwenllian (Arfon) Dileu
pwynt 3(a) a rhoi yn ei le: 'Gwella
seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a gwyrddach cyn ystyried cyflwyno tollau a
phrisio ffyrdd ar ffyrdd Cymru'. Gwelliant
4 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3(b): ceisio
datganoli llawn, gyda chyllid digonol, ar gyfer pob gwasanaeth rheilffordd yng
Nghymru; rhoi'r
dasg i Drafnidiaeth Cymru o greu rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru gyfan, sy'n
cysylltu'r gogledd â'r de a'n galluogi traffig rheilffordd rhwng y prif
ganolfannau poblogaeth; cyfuno
rheilffyrdd â gwasanaeth bws a reoleiddir i sicrhau bod opsiwn trafnidiaeth
gyhoeddus yn cael ei ddarparu ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys trefi bach
a phentrefi sydd â chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus achlysurol yn unig ar
hyn o bryd; rhoi'r
pŵer i awdurdodau lleol sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain; pennu
targed cenedlaethol lle bydd 10 y cant o'r holl deithiau'n cael eu gwneud
drwy feicio neu deithio ar sgwteri erbyn 2030; archwilio
cynigion ar gyfer priffyrdd a thwneli trydan yn unig mewn ardaloedd lle mae
llygredd aer uchel a thagfeydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.53 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7784 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu effaith
economaidd gadarnhaol dileu tollau croesi Afon Hafren. 2. Yn gresynu at gynigion
Llywodraeth Cymru a allai arwain at daliadau i fodurwyr sy'n defnyddio'r M4, yr
A470, yr A55 a chefnffyrdd eraill. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) ddiystyru cyflwyno tollau a
phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru; b) hyrwyddo trafnidiaeth fwy
gwyrdd drwy gymryd camau fel: i) cynyddu'r ddarpariaeth o
bwyntiau gwefru trydan ar rwydwaith ffyrdd Cymru; ii) hyrwyddo teithio llesol
ymhellach; a iii) ymestyn tocynnau bws am
ddim i bobl rhwng 16 a 25 oed.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd yn: 1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai
trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru 2. Galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd
i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o
deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol; b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i
ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu,
er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau
2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7784 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd yn: 1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai
trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru 2. Galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd
i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o
deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol; b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i
ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu,
er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.48 cafodd y
trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod
Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.52 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7785 Llyr Gruffydd
(Gogledd Cymru)
Cyhoeddi
adroddiad Holden - amser ar gyfer tryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl
yng Ngogledd Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.55 NDM7785 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cyhoeddi adroddiad Holden - amser ar gyfer
tryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru |