Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Fideogynhadledd ar Zoom

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.2  Cytunodd yr aelodau y dylid penodi Huw Irranca-Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro pe na bai'r Cadeirydd yn gallu gweithredu o ganlyniad i anawsterau technegol.

(13.45–15.50)

2.

Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

2.1  Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol mewn perthynas â’i ymchwiliadau, a chytunodd i geisio rhagor o dystiolaeth ysgrifenedig.

(15.50–15.55)

3.

Ethol Senedd fwy amrywiol: tystiolaeth ysgrifenedig

Cofnodion:

3.1  Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(15.55–16.00)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1  Nodwyd y papurau.

4.1

Ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar ethol Senedd fwy amrywiol

Dogfennau ategol:

4.2

Cyflwyniad ysgrifenedig gan Dr Alistair Clark mewn perthynas â'r bleidlais sengl drosglwyddadwy - Mai 2020

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru mewn perthynas ag adroddiadau statudol - 29 Mai 2020

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod nesaf y Pwyllgor

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.