Systemau a ffiniau etholiadol
Cynhaliodd y Pwyllgor
ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ymchwiliad i edrych yn fanwl ar
argymhellion y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn ymwneud â systemau a
ffiniau etholiadol, a’r egwyddorion sy’n eu cefnogi, drwy:
Edrych yn fanwl ar oblygiadau’r systemau a ffiniau
etholiadol a argymhellir gan y Panel Arbenigol ar gyfer cynrychiolaeth
ddemocrataidd yng Nghymru, ac ystyried sut y gallai’r egwyddorion a nodwyd gan
y Panel Arbenigol gael eu pwysoli i sicrhau bod trefniadau etholiadol y Senedd
yn briodol i gyd-destun Cymru;
Edrych ar ymdeimlad a dealltwriaeth y cyhoedd o
drefniadau a ffiniau etholiadol cyfredol y Senedd a’r opsiynau a argymhellir
gan y Panel Arbenigol;
Ystyried y goblygiadau i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru
o newid y system etholiadol a’r model ffiniau;
Edrych yn fanwl ar egwyddorion ac ymarferoldeb sefydlu
trefniadau adolygu ffiniau ar gyfer ardaloedd etholiadol y Senedd;
Ystyried y goblygiadau o ran cost ac adnoddau diwygio’r
system etholiadol a ffiniau’r Senedd.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Diwygio'r
Senedd: Y camau nesaf (PDF, 5MB) ym mis Medi 2020. Hefyd, cyhoeddodd grynodeb
o'i argymhellion (PDF, 113KB).
Ymwneud â’r cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 8
Ionawr a 19 Chwefror 2020.
Tystiolaeth lafar
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
Academyddion Yr Athro Roger Awan-Scully, Prifysgol Caerdydd Jess Blair, Cymdeithas Diwygio Etholiadol |
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/01/2020
Dogfennau
- Papur gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru – Mawrth 2020 [Saesneg yn unig]
- Cyflwyniad ysgrifenedig gan Dr Alistair Clark mewn perthynas â'r bleidlais sengl drosglwyddadwy - Mai 2020 [Saesneg yn unig]
- Cyflwyniad ysgrifenedig gan Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol mewn ymateb i gais y Pwyllgor am dystiolaeth ynghylch systemau a ffiniau etholiadol – Gorffennaf 2020 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd gyda gwybodaeth ychwanegol ar ddiwgio etholiadol – 11 Awst 2020
- Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf - Medi 2020
- Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf - Crynodeb o’r argymhellion - Medi 2020
Ymgynghoriadau
- Systemau a ffiniau etholiadol (Wedi ei gyflawni)