Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/10/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones.

1.3     Roedd David Melding yn dirprwyo ar ei rhan.

1.4     Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

(14.00 - 14.45)

2.

Parodrwydd yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio – sesiwn dystiolaeth gyda rhanddeiliaid o’r sector meddyginiaethau.

Dr Richard Greville - Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain

Judith Vincent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar ran Cydffederasiwn GIG Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Atebodd y panel gwestiynau gan yr Aelodau.

(14.45 - 14.50)

3.

Papurau i'w nodi

3.1

Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU - 3 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1  Cafodd y papur ei nodi.

3.2

Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'r Cadeirydd ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU - 7 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1  Cafodd y papur ei nodi.

3.3

Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU - 12 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1  Cafodd y papur ei nodi.

(14.50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 7 ac 8 o'r cyfarfod.

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

(14.50 - 15.05)

5.

Paratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio - ystyried tystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

(15.05 - 16.00)

6.

Bil Marchnad Fewnol y DU

Yr Athro Jo Hunt - Canolfan Llywodraethiant Cymru

Yr Athro Dan Wincott - Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

Goblygiadau Cyfansoddiadol Cynigion Marchnad Fewnol y DU [Saesneg yn unig]

Cofnodion:

6.1     Atebodd y panel gwestiynau gan yr Aelodau.

(16.00 - 16.30)

7.

Fframweithiau polisi cyffredin ledled y DU: y wybodaeth ddiweddaraf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf.

(16.00 - 16.30)

8.

Trefniadau gweithio o bell

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1     Cytunodd yr Aelodau i'r trefniadau gweithio o bell.