Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Fiddes 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2021 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Nid oedd Laura Jones yn bresennol.

1.3 Dywedodd Huw Irranca-Davies fod ganddo fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru, a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

 

(14.00-15.00)

2.

Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit: sesiwn dystiolaeth gydag academyddion

Marley Morris - Y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus

Claire Thomas - Sefydliad Bevan

Madeleine Sumption - Yr Arsyllfa Fudo, Prifysgol Rhydychen

Jonathan Portes - Coleg y Brenin Llundain

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y panel i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.00-15.05)

3.

Papur i'w nodi

3.1

Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach - 11 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papur.

 

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

5.

Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr aelodau’r dystiolaeth a gafwyd.

 

(15.20-15.35)

6.

Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau - trafod gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr aelodau’r ohebiaeth ddrafft, a chytunwyd arni’n amodol ar rai newidiadau.

 

(15.35-15.40)

7.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr aelodau adroddiad Dr Maria Garcia ar y Cytundeb Parhad Masnach rhwng y DU a Chanada.