Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru
Gwaith dilynol
Yn dilyn diwedd cyfnod pontio’r UE, cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol i gynnal gwaith dilynol i ystyried y newidiadau i’r
rhyddid i symud ar ôl Brexit.
Yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2021,
cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gydag academyddion er mwyn cael
diweddariad ar y materion a ystyriwyd yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol, gan
gynnwys cynnydd Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE y DU, yng
Nghymru, ac unrhyw faterion pellach sydd heb eu datrys.
Yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2021,
cyfarfu’r Pwyllgor â Llysgennad yr UE i’r DU er mwyn cael dealltwriaeth o
safbwynt yr UE ar hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru ar ôl Brexit.
Ym mis Ionawr 2021 cynhaliwyd cyfres o grwpiau
ffocws (PDF, 139KB) gyda dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru a
sefydliadau partner, i gasglu eu safbwyntiau ar roi’r Cynllun Preswylio’n
Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar waith.
Ar 17 Chwefror 2021 ysgrifennodd y Cadeirydd at y Cwnsler
Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (PDF, 311KB) a Gweinidog
Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo (PDF, 213KB) yn y Swyddfa Gartref i amlinellu
canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor. Ymatebodd
(PDF, 616KB) y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ar 11 Mawrth
2021. Ymatebodd
(PDF, 185KB) y Gweinidog dros Ffiniau’r Dyfodol a Mewnfudo ar 16 Mawrth 2021.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad: Newidiadau i ryddid i symud ar
ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru, 8 Tachwedd 2019. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 20 Rhagfyr 2019. Trafodwyd yr
adroddiad a’r ymateb yn y Cyfarfod Llawn 22 Ionawr 2020.
Ynghyd â chyhoeddi ei
adroddiad, mae’r Pwyllgor wedi creu cyfres o fideos i gyflwyno eu canfyddiadau.
Mae’r fideo cyntaf
yn rhoi crynodeb o’r ymchwiliad, a gellir ei weld isod:
YouTube-Here
https://www.youtube.com/embed/Us5I6xiKfJ0
Mae’r ail fideo yn
canolbwyntio ar Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a gellir ei
weld yma:
YouTube-Here
https://www.youtube.com/embed/FdM_CAKF9Zg
Casglu tystiolaeth
Er mwyn llywio ei ymchwiliad, casglodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan academyddion, rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd.
Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth gan academyddion ar 13 Mai 2019 er
mwyn deall rhai o'r materion allweddol ar ryddid i symud yn sgil Brexit er mwyn
llywio gwaith yn y dyfodol, os bydd angen, yn y maes hwn.
Ar 9 Gorffennaf 2019
lansiodd y Pwyllgor ei ymgynghoriad ar newidiadau i ryddid i symud
ar ôl Brexit – goblygiadau i Gymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 10 Medi a
chafwyd 16 o ymatebion (PDF, 920KB).
Cynhaliodd y
Pwyllgor grŵp ffocws (PDF, 108KB) ar 30 Medi 2019 gyda gwladolion yr UE a
sefydliadau partner er mwyn meithrin dealltwriaeth o'u profiad byw.
Cefndir
Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur o'r
enw ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’ (PDF,
1MB) sy'n amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar reolau rhyddid i symud yn y
dyfodol ar ôl Brexit.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar bolisi
mewnfudo yn y dyfodol o'r enw: ‘The UK’s future skills-based immigration’ [Saesneg yn
unig] (PDF, 14.6MB) ym mis Rhagfyr 2018. Mae'r papur yn amlinellu cynlluniau'r
Llywodraeth i gyflwyno un system fewnfudo newydd, gan ddod â symudiad rhydd i
ben.
Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus
Cymru waith ymchwil, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, o'r enw ‘Mudo yng Nghymru: Effaith newidiadau polisi
ôl-Brexit’.
Math o fusnes: Arall
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/05/2019
Dogfennau
- Gohebiaeth gan y Gweinidog dros Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo yn y Swyddfa Gartref at y Cadeirydd ynghylch newidiadau i’r rhyddid i symud ar ôl Brexit – 16 Mawrth 2021 PDF 185 KB
- Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - 11 Mawrth 2021 PDF 616 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ynghylch newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - 17 Chwefror 2021 PDF 311 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo yn y Swyddfa Gartref ynghylch newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – 17 Chwefror 2021 PDF 213 KB
- Crynodeb Grwpiau Ffocws - Ionawr 2021 PDF 139 KB
- Ymateb Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (EAAL): Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru - 20 Rhagfyr 2019
- Adroddiad: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru - Tachwedd 2019
- Crynodeb Grwpiau Ffocws - Hydref 2019 PDF 108 KB
Ymgynghoriadau
- Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru (Wedi ei gyflawni)