Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/02/2021 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

 

(14.00-15.00)

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Ed Sherriff – Llywodraeth Cymru

Emma Edworthy - Llywodraeth Cymru

Sophie Brighouse – Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.00-15.05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch gwelliannau i’r Bil Masnach - 10 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch fframweithiau cyffredin - 10 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nodwyd y papur.

 

3.3

Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch y berthynas newydd â’r UE - Beth mae'n ei olygu i Gymru - 12 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nodwyd y papur.

 

3.4

Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan Gynullydd Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban at y Cadeirydd ynghylch Fframwaith Cyffredin dros dro'r DU ar Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid - 17 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.1 Nodwyd y papur.

 

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

5.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.