Diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant
Ar 27 Tachwedd 2020, cyhoeddodd
Llywodraeth y DU fframwaith dros dro ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a
phorthiant, a hynny fel papur gorchymyn (Saesneg yn unig).
Mae diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant yn faes sydd
wedi'i gysoni i raddau helaeth â chyfraith yr UE. Mae’n cynnwys cyfreithiau
cyffredinol yn ymwneud â bwyd a phorthiant, materion diogelwch a safonau ym
maes bwyd a phorthiant, rheolaethau swyddogol, a rheolaethau iechyd cyhoeddus
sy’n ymwneud â bwyd sy’n cael ei fewnforio.
Gwnaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru doreth o
ddeddfwriaeth o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn cywiro
cyfraith yr UE a sicrhau ei bod yn gweithio mewn cyd-destun domestig yn dilyn
diwedd y cyfnod pontio. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo swyddogaethau o'r UE i
gyrff y DU a chyrff datganoledig. Rhwng 4 Medi a 14 Hydref 2018, cynhaliodd yr
Asiantaeth Safonau Bwyd ymgynghoriad
ynghylch y dull o gywiro cyfreithiau ym maes diogelwch a hylendid bwyd a
phorthiant.
Casglu tystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y fframwaith ar gyfer diogelwch
a hylendid bwyd a phorthiant yn ystod ei gyfarfod ar 3
Rhagfyr 2020.
Yn ystod ei gyfarfod ar 1
Chwefror 2021, cafodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn
friffio dechnegol ynghylch y fframwaith ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a
phorthiant gan swyddogion o'r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Allbwn
Ar 22 Mawrth 2021, ysgrifennodd
(PDF, 302KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
nodi casgliadau'r Pwyllgor, ar ôl iddo drafod Cytundeb Amlinellol y Fframwaith
Cyffredin Dros Dro ar Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. Ymatebodd
(PDF, 266KB) y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg ar 24 Mawrth 2021.
Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021
Dogfennau