Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Fiddes
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 18/01/2021 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Nid oedd
Laura Jones yn bresennol. 1.3 Dywedodd Huw
Irranca-Davies fod ganddo fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro
Rhaglen Cymru, a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi
Rhanbarthol. |
|
(14.00-15.00) |
Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit: sesiwn dystiolaeth gydag academyddion Marley Morris - Y
Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus Claire Thomas -
Sefydliad Bevan Madeleine
Sumption - Yr Arsyllfa Fudo, Prifysgol Rhydychen Jonathan Portes -
Coleg y Brenin Llundain Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y panel i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(15.00-15.05) |
Papur i'w nodi |
|
Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach - 11 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papur. |
||
(15.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.05-15.20) |
Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd yr aelodau’r dystiolaeth a gafwyd. |
|
(15.20-15.35) |
Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau - trafod gohebiaeth ddrafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Trafododd yr aelodau’r ohebiaeth ddrafft, a chytunwyd
arni’n amodol ar rai newidiadau. |
|
(15.35-15.40) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd yr aelodau adroddiad Dr Maria Garcia ar y
Cytundeb Parhad Masnach rhwng y DU a Chanada. |