Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC.

 

(09.30-11.30)

2.

Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch Gwasanaethau Adran Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Dr Sharon Hopkins, Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yr Athro Marcus Longley, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch gwasanaethau adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

2.2 Cytunodd cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddarparu manylion yr ymdrechion a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf i recriwtio ymgynghorwyr i Adran Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

 

(11.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

(11:30-11:50)

4.

Gwaith craffu cyffredinol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch Gwasanaethau Adran Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y materion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch nifer o faterion.

 

(11.50-12.10)

5.

Gwrandawiad cyn-benodi gydag ymgeisydd o ddewis Llywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: ystyried y dull gweithredu

Gwrandawiad cyn-benodi - cwmpas a dull gweithredu

Dogfennau ategol: