Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-10.15)

2.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Jackie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Y Cyngnorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Briff ymchwil

Papur 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

(10.25-11.10)

3.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda byrddau iechyd lleol

Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Rob Lightburn, Dirprwy Bennaeth Gofal Iechyd, CEM Berwyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Carmel Donovan, Rheolwr Gwasanaeth Cymunedau Integredig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Carmel Donovan

 

Papur 2 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Papur 3 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr byrddau iechyd lleol.

3.2 Cytunodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ddarparu manylion am;

Ø  i ba raddau y mae achosion o oedi a chanslo hebryngwyr o HMP Parc i apwyntiadau gofal iechyd allanol yn cael eu monitro yn erbyn safonau amseroedd aros cenedlaethol ar gyfer diagnosteg a thriniaeth gan y gwasanaethau iechyd;

Ø  yr oedi wrth drosglwyddo cleifion i'r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac a yw HMP Parc yn cydymffurfio â chanllawiau trosglwyddo cyfredol; ac

Ø  unrhyw sicrwydd y gall y Bwrdd Iechyd ei roi i ddangos ei fod yn gweithio gyda'r gwasanaeth carchardai i sicrhau diogelwch staff gofal iechyd sy'n gweithio yng Ngharchar EM y Parc.

 

(11.20-12.05)

4.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda byrddau iechyd lleol

Alison Ryland, Uwch-nyrs/Rheolwr Gofal Iechyd ym maes Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Mair Strinati, Cyfarwyddwr Clinigol Grwpiau Agored i Niwed, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dr Anjula Mehta, Meddyg Teulu a Chyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Emily Dibdin, Arweinydd Clinigol ar gyfer Amgylcheddau Diogel a Chamddefnyddio Sylweddau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Papur 4 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Papur 5 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Papur 6 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr byrddau iechyd lleol.

 

(12.05)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

5.2

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Cynllun Pensiynau’r GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

5.3

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(12.05)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfodydd ar 27 Tachwedd (ar gyfer digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid ar ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion), ac ar 05 Rhagfyr 2019 (ar gyfer blaen-gynllunio rhaglen waith)

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i’r cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfodydd ar 27 Tachwedd (ar gyfer digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid ar ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion), ac ar 5 Rhagfyr 2019 (ar gyfer blaen-gynllunio rhaglen waith).

(12.05-12.20)

7.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.30-14.30)

8.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr: Lansio'r adroddiad (lleoliad allanol)

Cofnodion:

8.1 Lansiodd y Pwyllgor ei adroddiad, 'Gofalu am ein dyfodol: Ymchwiliad i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr’.