Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 779KB) Gweld fel HTML
(424KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Dawn Bowden AC a Julie Morgan AC. |
||
(09.30 - 10.15) |
Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 9 - Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Karin Orman, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol Dr Alison Stroud, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Beth Bowen, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Therapyddion
Galwedigaethol a Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd. |
|
(10.20 - 10.50) |
Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 10 - Fforwm Gofal Cymru Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru Steven Ford, Fforwm Gofal Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.50 - 11.20) |
Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - adfywio'r ymchwiliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau ychwanegol ar ei ymchwiliad i
weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc a chytunodd i wahodd
rhanddeiliaid i sesiynau casglu tystiolaeth yn ystod tymor y gwanwyn. |
|
(11.35 - 12.05) |
Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 11 - Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru David Francis, Prif Arolygydd Cynorthwyol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. 6.2 Cytunodd David Francis i roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o nifer y
cartrefi gofal yng Nghymru yr oedd AGGCC wedi'u cau oherwydd eu bod yn darparu
gwasanaethau gwael. |
|
(12.45 - 13.30) |
Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 12 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Mr John Palmer, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mrs Kim Williams, Seicolegydd Ymgynghorol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Victoria Gimson, Fferyllydd Iechyd Meddwl Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Caerdydd a'r Fro Candace Rowlands, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol
Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. |
|
(13.35 - 14.20) |
Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 13 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Claire Aston, Nyrs Rhanbarthol / Pennaeth Gofal Cymhleth, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan Dr Chineze Ivenso, Seiciatrydd Ymgynghorol Hen Oed (Tîm Iechyd Meddwl
Cymunedol Casnewydd), Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Sarah Isaac, Uwch Reolwr Fferyllydd - Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda Sue Stephens, Ymgynghorydd Rhagnodi, Bwrdd Iechyd Prfysgol Hywel Dda Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 8.2 Cytunodd Dr Chineze Ivenso i roi i'r Pwyllgor ganfyddiadau archwiliadau
2017, hyd yma, i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig gyda chleifion â
dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal ym mwrdeistref Casnewydd. 8.3 Cytunodd y ddau Fwrdd Iechyd i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi pa
ddata ar ragnodi meddyginiaethau gwrthseicotig y dylid eu casglu yn
genedlaethol, yn eu barn hwy, er mwyn galluogi byrddau iechyd i feincnodi â'i
gilydd ac â safonau NICE. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - gwybodaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol
Cymru mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig
mewn cartrefi gofal. |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â'r ymchwiliad y mae'r Pwyllgor ar fin ei gynnal i faterion yn ymwneud ag atal hunanladdiad Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â'r ymchwiliad y mae'r Pwyllgor ar fin ei
gynnal i faterion yn ymwneud ag atal hunanladdiad. |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus ynghylch Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 10.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(14.20 - 14.35)) |
Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3, 6,
7 ac 8 o'r cyfarfod. |