Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad byr i’r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Cefnogwyd yr ymchwiliad hwn gan randdeiliaid a ymatebodd i’r ymgynghoriad ar flaenoriaethau’r Pwyllgor.

 

Grŵp o feddyginiaethau yw meddyginiaeth wrthseicotig a ddefnyddir fel arfer i drin cyflyrau iechyd meddwl fel sgitsoffrenia. Maent yn aml yn cael eu rhagnodi yn amhriodol i reoli symptomau ymddygiadol a seicoleg dementia. Mae eu defnydd ymysg cleifion sydd â dementia yn gysylltiedig â risg gynyddol sylweddol o niwed. Awgrymwyd bod tua dwy ran o dair o bresgripsiynau meddyginiaeth wrthseicotig i bobl sydd â dementia yn amhriodol.

 

Nodir y nod o leihau nifer y bobl sydd â diagnosis o ddementia sy'n defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol, yn arbennig mewn cartrefi gofal, fel cam allweddol yn strategaeth ddementia ddrafft Llywodraeth Cymru.

 

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidogion ar 31 Ionawr 2023.

 

Cylch gorchwyl

 

Edrychodd y Pwyllgor ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn lleoliadau cartrefi gofal, a’r ffyrdd posibl i leihau’r defnydd amhriodol ohoni, gan gynnwys ystyried:

 

  • data sydd ar gael ar ragnodi meddyginiaethau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, er mwyn deall pa mor gyffredin ydynt a phatrymau defnydd;
  • arferion rhagnodi, gan gynnwys gweithredu canllawiau clinigol ac adolygiadau ar feddyginiaethau;  
  • cynnig opsiynau trin eraill (nad ydynt yn ffarmacolegol);
  • hyfforddiant i staff iechyd a gofal i gefnogi gofal sy'n canolbwyntio ar unigolyn ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal sy'n byw â dementia;
  • nodi arfer gorau, ac effeithiolrwydd mentrau a gyflwynwyd hyd yma i leihau'r arfer o ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol;
  • defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig i bobl â dementia mewn mathau eraill o leoliadau gofal.

 

Casglu tystiolaeth

 

Roedd y Pwyllgor yn gwahodd safbwyntiau ar y mater hwn. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 21 Ebrill 2017.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/03/2017

Dogfennau

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau