Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/07/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AS.

 

(09.30-10.45)

2.

COVID:19 - Sesiwn dystiolaeth gyda BMA Cymru a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon

Richard Johnson, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Cymru

Alice Jones, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru, Coleg Brenhinol y Llawafeddygon

Dr David Bailey, Cadeirydd Cyngor BMA Cymru

Dr Phil Banfield, Cadeirydd Pwyllgor yr Ymgynghorwyr, BMA Cymru

 

Briff ymchwil

Papur 1 – Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru

Papur 2 – Coleg Brenhinol y Llawafeddygon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BMA Cymru a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon.

 

(10.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1  Cytunodd y Pwyllgor i’r Cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.

 

(10.45-11.00)

4.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.15-12.30)

5.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

Tom Bysouth, Cadeirydd Pwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain

Lauren Harrhy, Dirprwy Gadeirydd Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain

Dr David Johnson, Cadeirydd Pwyllgor Deintyddiaeth Gymunedol Cymru, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru.

5.2 Cytunodd Tom Bysouth i rannu rhestr o argymhellion Pwyllgor Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol Cymru gyda'r Pwyllgor hwn.

 

(12.30)

6.

Papurau i’w nodi

(12.30)

6.1

Papur ar gyfer y cyfarfod o Fwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch dyfodol yr Adran Driniaeth Frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

6.2

Llythyr gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ynghylch gofal diwedd oes mewn carchardai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(12.30)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1  Cytunodd y Pwyllgor i’r Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

(12.30-12.45)

8.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.