Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 559KB) Gweld fel HTML (328KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 3 - Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru Wales a Choleg Brenhinol y Meddygon

Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu (Cymru) y BMA

Dr Trevor Pickersgill, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru y BMA

Dr Gareth Llewelyn FRCP, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru

Lowri Jackson, uwch gynghorwr polisi a materion cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BMA Cymru a Choleg Brenhinol y Meddygon.

2.2 Cytunodd Dr Jones i ddarparu papur i'r Pwyllgor yn trafod indemniad y goron a Chronfa Risg Cymru.

 

 

(10.35 - 11.35)

3.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 4 - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a GP Survival

Dr Rebecca Payne, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Isolde Shore-Nye, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Linda Dykes, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Achosion Brys, Ysbyty Gwynedd a Meddyg Teulu â Diddordeb Arbennig mewn Geriatreg yn y Gymuned, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Gorllewin)

Dr Sara Bodey, Partner Meddyg Teulu, Practis Bradley, Bwcle, Sir y Fflint (GP Survival)

Dr Heidi Phillips, Partner Meddyg Teulu, Canolfan Feddygol Fforestfach, Abertawe a Chyfarwyddwr Derbyniadau ar gyfer y rhaglen feddygaeth i raddedigion yn Abertawe (GP Survival)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, GP Survival, a gan Dr Linda Dykes.

 

(11.40 - 12.20)

4.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 5 - yr Athro Dean Williams

Yr Athro Dean Williams, Ysgol Gwyddorau Meddygol Bangor

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Williams.

 

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Craffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yng Nghyfnod 1 – Gwybodaeth ychwanegol gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.20 - 12.25)

7.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4.

 

(12.25 - 12.30)

8.

Ymchwiliad i ofal sylfaenol – trafod y trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer ei ymchwiliad i ofal sylfaenol a chytunodd i ymweld â nifer o rwydweithiau clwstwr meddygon teulu, a chytunodd i gynnal digwyddiadau i randdeiliad, gyda'r manylion i'w cadarnhau.