Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 466KB) Gweld fel HTML
(267KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Dawn Bowden AC;
dirprwyodd Huw Irranca-Davies AC ar ei rhan. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3 a 4 Er mwyn ystyried: ·
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu ·
Bil Cymru Llywodraeth y DU Cofnodion: 2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(09.15 - 09.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu: ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r llythyr
oddi wrth Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 3.2 Trafododd
y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a fydd yn cael ei osod cyn y dyddiad olaf ar
gyfer cyflwyno adrodd ar 22 Medi 2016. |
|
(09.30 - 10.00) |
Craffu ar Fil Cymru Llywodraeth y DU Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor Fil Cymru Llywodraeth y DU a'i oblygiadau ar gyfer
cylch gwaith polisi'r Pwyllgor. |
|
(10.00 - 12.00) |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - trafod blaenoriaethau Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog
a'u swyddogion |
|
Papurau i’w nodi |
||
Llythyr gan y Llywydd at Gadeiryddion Pwyllgor ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor lythyr y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y
Cyfarfod Llawn. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch goblygiadau'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru Llywodraeth y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. |
||
Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Dogfennau ategol:
|
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Er mwyn ystyried: ·
tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a'r
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan eitem 5 ·
y flaenraglen waith ·
cynllunio strategol a thrafod ymchwiliadau posibl Cofnodion: 7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.00 - 12.15) |
Trafod tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan yr Ysgrifennydd
Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion 8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y
sesiwn. |
|
(12.15 - 12.45) |
Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref a
chytunodd ar ystyried cynlluniau ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn y sesiwn
gynllunio strategol a chwmpasu ymholiadau tymor hwy yn ei gyfarfod ar 21 Medi
2016. |