Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/06/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r
cyfarfod. 1.2
Yn
unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei fod wedi
penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd. 1.3
Nododd
y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw
reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog
17.22. |
|
(14.00-14.45) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar gydraddoldeb a hawliau dynol Ruth Coombs,
Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru Hannah Wharf,
Pennaeth Materion Allanol, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: ·
Ruth
Coombs, Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru; a ·
Hannah
Wharf, Pennaeth Materion Allanol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng
Nghymru |
|
(15.00-16.00) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar bobl hŷn Heléna Herklots,
Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru Victoria Lloyd,
Prif Weithredwr, Age Cymru Cofnodion: 3.1. Croesawodd y
Cadeirydd Jayne Bryant AS, Dai Lloyd AS, Lynne Neagle AS a David Rees AS,
aelodau o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, i’r cyfarfod ar
gyfer yr eitem hon. 3.2 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: ·
Heléna
Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; a ·
Victoria
Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru. |
|
(16.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw yn ystod eitem 5 ac eitem 8 Cofnodion: 4.1. Cytunodd y Pwyllgor i’r cynnig. |
|
(16.00-16.15) |
Effaith COVID-19 ar bobl hŷn - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3. |
|
(16.15-17.00) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Patience Bentu,
Swyddog Cymorth Gweinyddiaeth a Pholisïau, Race Council Cymru Rocio Cifuentes,
Prif Weithredwr, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) Ginger Wiegand,
Ymchwil a Pholisïau, Rhaglen Ymgysylltu BAME Cymru Gyfan, Tîm Cymorth
Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: ·
Patience
Bentu, Swyddog Cymorth Gweinyddiaeth a Pholisïau, Race Council Cymru ·
Rocio
Cifuentes, Prif Weithredwr Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST). |
|
(17.00-17.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
|
Gohebiaeth gan Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip at Priti Patel AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ynghylch COVID-19 a'i effaith ar Gymunedau BAME - 12 Mai 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Jane Hutt AS at Priti Patel AS ynghylch COVID-19 a’i
effaith ar Gymunedau BAME. |
||
Gohebiaeth gan Chris Philp AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ynghylch Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - 29 Mai 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.2a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Chris Philp AS ynghylch Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)
2016.. |
||
Gohebiaeth gan Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ynghylch ymgysylltu a’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar Flaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - 1 Mehefin 2020. Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.3a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid,
ynghylch ymgysylltu a’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar Flaenoriaethau Gwariant
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. |
||
Gohebiaeth gan Nick Ramsay AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, at Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ynglŷn ag adroddiadau statudol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol - 29 May 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.4a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Nick Ramsay AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus, at Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Sophie Howe,
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ynglŷn ag adroddiadau statudol Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyfarfod y pwyllgor ar 15 Mai 2020 - 10 Mehefin 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.5a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyfarfod
y Pwyllgor ar 15 Mai 2020. |
||
(17.05-17:15) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith: trafod y dystiolaeth ymhellach Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 6. |