Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Fideo gynadledda drwy Zoom
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/06/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod
y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. 1.2 Yn unol â Rheol
Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd
o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. 1.3 Dywedodd y
Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm,
y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Dirprwyodd
David Melding AS ar ran Mark Isherwood AS ar gyfer eitem 8, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.48. |
|
(14.00-14.45) |
Ymchwiliad i Covid-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Sara Kirkpatrick,
Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol: ·
Sara
Kirkpatrick, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru 2.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y tyst i wneud y canlynol: ·
rhoi
tystiolaeth bresennol, os yw’n bosibl, ar hunanladdiad sy'n gysylltiedig â
cham-drin domestig; ·
rhoi
gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag aflonyddu a stelcio. |
|
(15.00-15.45) |
Ymchwiliad i Covid-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Yasmin Khan,
Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais arall ar Sail
Rhywedd, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol: · Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol ar
Drais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar sail Rhywedd, Cam-drin
Domestig a Thrais Rhywiol. 3.2 Yn ystod y cyfarfod,
cytunodd y tyst i wneud y canlynol: · rhoi gwybodaeth am strategaeth ymadael y
Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer dod â’r cyfyngiadau symud i ben; · rhoi gwybodaeth benodol am raglenni
cyflawnwyr. |
|
(15.45) |
Papur i’w nodi |
|
Ymateb gyda'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fudd-daliadau yng Nghymru - 20 Mai 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1a Nododd y
Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru wedi’i ddiweddaru i adroddiad y Pwyllgor ar
Fudd-daliadau yng Nghymru. |
||
(15.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig. |
|
(15.45-15.55) |
Sesiynau tystiolaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3. |
|
(15.55-16.05) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytuno
arni. |
|
(16.05-16.15) |
Bil Diogelwch Tân: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Tân. |