Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gareth Bennett AC a Sian Gwenllian AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitem 6 o'r cyfarfod.

 

 

 

(09.15 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - sesiwn dystiolaeth 4: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

·         Ruth Studley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pontio Cymunedau yn Gyntaf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.

·       Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

·       Ruth Studley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pontio Cymunedau yn Gyntaf

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu:

·       Manylion am y broses ar gyfer holi ynghylch cynlluniau llesiant byrddau gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru);

·       Nodyn o'r trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, byrddau cyflawni lleol a byrddau gwasanaeth cyhoeddus ar drefniadau trosiannol;

·       Copi o'r Canllawiau Pontio a Strategaeth a ddarparwyd i awdurdodau lleol;

·       Nodyn ar werthusiad rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn, gan gynnwys unrhyw ddata sydd ar gael a'r meini prawf asesu;

·       Nodyn yn rhoi rhagor o fanylion am y llwybr cyflogadwyedd ar ôl ymgysylltu â'r rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn;

·       Copi o'r canllawiau ar y rhaglen ased cyfalaf.

 

3.

Papurau i'w nodi

3.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 9 Mehefin 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 9 Mehefin 2017.

 

3.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 13 Mehefin 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 13 Mehefin 2017.

 

3.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â gwaith craffu ar y Gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chraffu ar y gyllideb ddrafft.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.00 - 11.30)

5.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o faterion a nodwyd.

 

(11.30 - 12.30)

6.

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

7.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrrau o fflatiau: ystyried y dull

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull a chytunodd i gynnal ymchwiliad undydd ar 13 Gorffennaf 2017.