Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Room 3

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC.

 

1.3.      Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiant perthnasol fel aelodau o undebau:

·         John Griffiths AC;

·         Jenny Rathbone AC;

·         Joyce Watson AC;

·         Rhianon Passmore AC;

·         Siân Gwenllian AC.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-Adran Gymunedau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi

·         Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymunedau

 

2.2. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu:

·         Ffigurau bras yn dangos sut y bydd cronfa etifeddiaeth Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei rhannu rhwng awdurdodau lleol gan ddangos hefyd sut y cafodd y ffigurau eu dadansoddi;

·         Nodyn am lwyddiant Cymru ym maes trechu tlodi o’i chymharu â gwledydd eraill, a’r Alban yn benodol;

·         Esboniad o fanylion y drefn adrodd yng nghyswllt y dangosyddion statudol a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru);

·         Nodyn ar y data a ddefnyddiwyd i werthuso llwyddiant Cymunedau yn Gyntaf ac i gynllunio’r cyfnod pontio a’r dull newydd o weithredu, gan gynnwys y dangosyddion presennol a’r dangosyddion a ddefnyddir yn y dyfodol.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1.      Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.45 - 11.00)

4.

Craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - trafod y dystiolaeth o dan eitem 2

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

(11.10 - 12.10)

5.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2

  • Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Jonathan Lloyd, Pennaeth Cyflogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Steve Thomas, Prif Weithredwr, Llywodraeth Leol Cymru,

·         Jonathan Lloyd, Pennaeth Cyflogaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

(12.45 - 13.45)

6.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3

  • Dr Stephen Monaghan, Cadeirydd Cyngor Is-bwyllgor Deddfwriaeth Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain
  • Andrew Cross, Ysgrifennydd Cynorthwyol, Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)
  • Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Cyswllt (Cysylltiadau Cyflogaeth)
  • Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, y Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Lien Watts, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Dr Stephen Monaghan, Cadeirydd Is-bwyllgor Deddfwriaeth Cyngor BMA Cymru

·         Mr Andrew Cross, Ysgrifennydd Cynorthwyol, BMA Cymru

·         Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Cyswllt

·         Lisa Turnbull, Cynghorwr Polisi a Materion Cyhoeddus, y Coleg Nyrsio Brenhinol

·         Lien Watts, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol

 

(13.45 - 14.45)

7.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 4

·         Margaret Thomas, Is-lywydd TUC Cymru

·         Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Margaret Thomas, Is-lywydd, TUC Cymru

·         Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

 

8.

Papurau i’w nodi

8.1

Gohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn graffu ar 2 Chwefror 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y materion a godwyd yn y sesiwn graffu ar 2 Chwefror 2017.

 

8.2

Gwybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.2. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

9.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.45 - 15.00)

10.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5, 6 a 7

Cofnodion:

10.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5, 6 a 7.