Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 

1.2        Nodwyd bod Gareth Bennett AC a Rhianon Passmore AC wedi ymddiheuro am eu habsenoldeb.

 

 

 

(09.15 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 7

Dr Mike Chick, Prifysgol De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dr Mike Chick, Prifysgol De Cymru

 

(10.00 - 10.45)

3.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 8

Alicja Zalesinska, Cyfarwyddwr, Tai Pawb

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Alicja Zalesinska, Cyfarwyddwr Tai Pawb

 

3.2 Cytunodd Tai Pawb i ddarparu:

·         Manylion am effaith archwiliadau Hawl i Rentu ar y rhai y gwrthodwyd rhoi lloches iddynt ac nad yw arian cyhoeddus ar gael iddynt;

·         Gwybodaeth am y rhesymau dros y nifer gynyddol o geiswyr lloches sy’n cael eu troi allan o’u llety yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi i’w cais am statws ffoaduriaid gael ei wrthod. 

 

(11.00 - 11.45)

4.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 9

Canon Aled Edwards, Alltudion ar Waith

Faruk Ogut, Cydgysylltydd y Prosiect Ailsefydlu, Alltudion ar Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Canon Aled Edwards, Alltudion ar Waith

·         Faruk Ogut, Cydgysylltydd y Prosiect Adleoli, Resettlement Project Co-ordinator, Alltudion ar Waith

 

4.2 Cytunodd Alltudion ar Waith i ddarparu:

·         Gwybodaeth am brosiect mentora sy’n cael ei redeg gan Sova sy’n rhoi cyfle i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ddweud eu hanes mewn amgylchedd diogel;

·         Gwybodaeth am drafodaethau Partneriaeth Mudo Strategol Cymru yn ymwneud â thrin ffoaduriaid fel pobl eraill sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a’u gorfodi i symud ymlaen ar ôl 56 o ddiwrnodau.

 

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Gohebiaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chraffu ar yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chraffu ar adroddiad blynyddol 2015-16

 

5.2

Gohebiaeth gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Senedd yr Alban ynghylch hawliau dynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Senedd yr Alban mewn perthynas â hawliau dynol.

 

5.3

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Oxfam ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Oxfam mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

5.4

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

5.5

Gohebiaeth gan Weinidog Mewnfudo Llywodraeth y DU ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog Mewnfudo Llywodraeth y DU mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

5.6

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Bartneriaeth Mudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

5.7

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

5.8

Gohebiaeth gan Cytûn mewn perthynas ag ymgynghoriad ‘Trafod Cymunedau’ Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.8 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Cytun mewn perthynas ag ymgyghoriad ‘Trafod Cymunedau’ Llywodraeth Cymru.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(11.45 - 12.15)

7.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3 a 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth o dan eitemau 2,3 a 4