Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2021 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AS. Roedd Mike Hedges yn bresennol fel dirprwy.

 

Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad o fuddiant gan fod ei ferch yn ystyried gyrfa ym maes addysg Gymraeg.

 

(09.30-11.00)

2.

Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:

 

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

 

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg

 

Jeremy Evas, Pennaeth Prosiect 2050

 

3.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau a chytunwyd i ysgrifennu at Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwiliad ar Gerddoriaeth Fyw.

 

3.1

Ymateb i’r adroddiad ar yr ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw gan Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd.

Dogfennau ategol:

3.2

Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru am y Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) drafft

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:00-11:15)

5.

Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.15-11.45)

6.

Ymchwiliad i ddatganoli darlledu: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Gwnaed diwygiadau a chytunwyd y byddai'r fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad drafft yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.