Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/10/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45-14.30)

1.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft: Cymru'r Dyfodol - Sesiwn friffio gyda chynghorydd arbenigol

Graeme Purves, Cynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Graeme Purves, Cynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft 2020-2040.

1.2 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a thrafodwyd materion allweddol a nodwyd yn y briff.

(14.45)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

2.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

 

 

(14.45-16.00)

3.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft: Cymru'r Dyfodol - sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Jon Fudge, Pennaeth Polisi Cynllunio

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Aelodau yn holi’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’i swyddogion am y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft 2020-2040.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

 

4.1

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - dilyniant i sesiwn dystiolaeth 17 Medi 2020

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - Torri'r rheol 21 diwrnod a Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Dogfennau ategol:

4.4

Papur briffio gan Dŵr Cymru mewn perthynas â Llyn Anafon

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitem 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitem 3.

 

7.

Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.