Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn absenoldeb y Cadeirydd, etholwyd Jenny Rathbone MS yn Gadeirydd dros dro o dan reol sefydlog 17.22

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2  Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AS a dirprwyodd Mick Antoniw AS ar ei ran.

 

(13.45-15.00)

2.

Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Catriona Hawthorne, Cyfreithwraig, Tîm yr Amgylchedd ac Ynni

Rhiannon Phillips, Swyddog Polisi, Marchnadoedd Carbon

Christine Wheeler, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Datgarboneiddio ac Ynni

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion ar Gynllun Allyriadau’r DU.

(15.15-16.15)

3.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd yng Nghymru

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr

Andy Fraser, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Dŵr a Llifogydd

James Morris, Pennaeth y Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion ar ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd yng Nghymru.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Y wybodaeth ddiweddaraf am Fil Pysgodfeydd y DU ac ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) ar y Bil Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o sesiwn gyntaf y cyfarfod ar 15 Hydref 2020

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

 

7.

Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitem 3

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu.